Newyddion diweddaraf
Mae Rhuthun yn dref fywiog a phrysur gyda digonedd yn digwydd. Manylion am y newyddion diweddaraf i'w weld yma.
Bydd Beicio Cymru yn cynnal Pencampwriaeth Treialon Amser Cymru o amgylch Rhuthun ddydd Sadwrn, 1 Mehefin, a Phencampwrias Ras Ffordd Cymru ddydd Sul, 2 Mehefin.
Dyma'r tro cyntaf i'r digwyddiad ddod i Rhuthun, a'r tro cyntaf y bydd y Ras Ffordd yn gorffen yng nghanol tref.
Croeso cynnes i bawb ddod draw i weld y beicwyr yn gorffen y ras ffordd.
Mae Rhuthun wedi cael ei chydnabod fel Tref sy'n Croesawu Bysiau Moethus. Cyflwynwyd y dystysgrif gan John Pockett, Cyfarwyddwr Cymru y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar 25 Ebrill.
Dyma'r dyfarniad cyntaf yn Sir Ddinbych, ac mae Rhuthun yn ymuno gyda llond llaw yn unig o leoliadau eraill yng Nghymru sydd wedi sicrhau'r statws hwn.
Y nod yw tynnu sylw at y cyfleusterau i fysiau ac atyniadau'r dref, ac annog trefnwyr teithiau bws i ddod ag ymwelwyr i weld atyniadau a busnesau'r dref ganoloesol hanesyddol hon.