Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcîs sy'n storio gwybodaeth amhersonol i'n cynorthwyo i wella ein gwefan.

Gwybodaeth am Rhuthun

Croeso i dref farchnad hanesyddol Rhuthun. Mae’n dref fechan llawn syndod sy’n cynnwys dros 800 mlynedd o haenau o hanes ac fe’i lleolir yn un o’r tirweddau harddaf ym Mhrydain. Gyda’i strydoedd troellog, pensaerniaeth gain, siopau cyfareddol a bwyd blasus, mae gan Rhuthun lawer i’w gynnig i ymwelwyr. Disgrifiodd golygydd y Times y dref fel ‘the most charming small town in Wales,’ ac rydym ni’n siwr y byddwch chi’n cytuno!

Mae Rhuthun yn falch o fod yn gyrchfan twristiaeth o’r radd flaenaf. Mae’n dref fechan rhyfeddol gyda dros 800 mlynedd o haenau o hanes ac mae wedi’i lleoli yn un o’r tirluniau mwyaf prydferth ym Mhrydain. Gyda’i strydoedd troellog, pensaerniaeth rhagorol Darllen mwy ›

 

Lle parcio i fysiau: Parcio AM DDIM yng Nghanolfan Grefft Rhuthun  

Mannau gollwng/casglu teithwyr: Maes parcio Heol y Parc

Toiledau: Toiledau AM DDIM yng Nghanolfan Grefft Rhuthun a Stryd y Farchnad, nesaf at Costa.   

Toiledau talu ym maes parcio Cae Ddôl, oddi ar Stryd Clwyd.   

 

Canolfan Grefft Rhuthun

Ar agor bob dydd, 10.00am – 5.30pm. Mynediad am ddim.

Canolfan Grefft Rhuthun,
Heol y Parc, Rhuthun,
Sir Ddinbych, LL15 1BB
Rhif ffôn: +44 (0)1824 704774
E-bost: ruthincraftcentre@denbighshire.gov.uk

Gwybodaeth i drefnwyd a gyrwyr: Parcio AM DDIM yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Lluniaeth i’r gyrrwr yn Café R yn y Ganolfan Grefft.  

Gwefan: visitruthin.wales    Rhif ffôn: 01824  706223                                                 E-bost: tourism@denbighshire.gov.uk

Bwyta, yfed a siopa

http://ruthincraftcentre.org.uk/cafe/

Os hoffech drafod bwcio ar gyfer grŵp ffoniwch 01824 708099

 

Hefyd llawer o fwytai a chaffis eraill  

Edrychwch ar https:// visitruthin.wales/cy/darganfod-rhuthun/bwyta-yfed-a-siopa  

 

Atyniadau i ymweld â nhw yn ystod ymweliad diwrnod

Canolfan Grefft Rhuthun  

Mae’r brif oriel yn cynnwys y gorau o ran celf gymhwysol gyfoes rhyngwladol a chenedlaethol, ac arddangosfeydd/gweithdai eraill o ddiddordeb.  

http://ruthincraftcentre.org.uk/

Carchar Rhuthun  

Y Carchar yw un o’r mannau mwyaf poblogaidd i ymweld ag ef yn Rhuthun. Dyma’r unig garchar pwrpasol arddull Pentonville sydd ar agor i’r cyhoedd fel atyniad treftadaeth yn y Deyrnas Unedig. Treuliwch amser yn archwilio pob twll a chornel ac yn dysgu am fywyd yn y system garcharu Fictoraidd.  

www.ruthingaol.co.uk

Nantclwyd y Dre

Cyfle i weld y tŷ tref ffrâm bren hynaf yng Nghymru, wedi’i adeiladu yn 1434/5 a’i adfer yn ofalus i ddangos saith cyfnod gwahanol yn hanes y tŷ. Ewch i weld y gerddi godidog hefyd, Gardd yr Arglwydd.  

www.nantclwydydre.co.uk

Noder – mae Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre ar agor ar gyfer ymweliadau cyffredinol o fis Ebrill tan fis Medi ac ar gyfer teithiau wedi’u bwcio ymlaen llaw yn unig yn ystod y gaeaf. Dylai grwpiau sy’n dymuno gael taith gyda thywysydd yn yr atyniadau hyn drefnu hynny ymlaen llaw gyda’r lleoliad. Gweler y wefan am ragor o fanylion.  

Castell Rhuthun

Beth am gael paned a lluniaeth yn y castell ysblennydd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ymweld â’r castell canoloesol cudd, rhan o’r cylch haearn o gestyll a adeiladwyd gan Edward 1 yn nhiroedd y castell. Mae Castell Rhuthun yn darparu lleoliad rhagorol ar gyfer cynnal gwleddau canoloesol hefyd.  

http://www.ruthincastle.co.uk/

Sgwâr ac Eglwys Sant Pedr

Darganfyddwch y chwedl am y Brenin Arthur yn torri pen Huail ymaith, a’r Hen Lys, a ailadeiladwyd ar ôl i Dywysog olaf Cymru, Owain Glyndwr, ymosod ar y dref ym mis Medi 1400. Hefyd, ewch i mewn i’r eglwys o’r bedwaredd ganrif ar ddeg gyda’i tho pren godidog.  

Teithiau tywysedig  

Mae Tywyswyr Bathodyn Gwyrdd cymwysedig ar gael i ddarparu teithiau gydag elfennau ychwanegol diewisol, fel ymweliadau â gwahanol atyniadau, paned o goffi, te prynhawn, crinio neu de hufan. Mae teithiau safonol yn cymryd tua awr a hanner, ond gellir addasu’r amser a’r pwnc i weddu i bob grŵp. Hefyd medrwn drefnu ymweliadau cyfarwyddo i drefnwyr grwpiau i’w cynorthwyo i ddysgu rhagor am yr atyniadau a’r cyfleusterau a gynigir.  

https://heritagetoursnorthwales.com/ruthin/

E-bost: htnw@btinternet.com

 

Teithiau hunan dywysedig

Taith Darganfod Rhuthun

Cewch gopi o daith o amgylch Rhuthun o’r ystafell gwybodaeth i dwristiaid yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Neu lawrlwythwch gopi http://www.discoverdenbighshire.wales/exploring-ruthin/

Taith Llwybr Celf Rhuthun

Canfyddwch y 10 twll ysbïo wedi’u gosod yn waliau’r dref a dod o hyd i’r 22 ffigur wedi’u cuddio ymhlith toeau a thu blaen adeiladau o gwmpas y dref.  

http://www.ruthinarttrail.co.uk/

Mae lleoliad strategol Rhuthun rhwng Hiraethog a Bryniau Clwyd wedi arwain at lawer o frwydrau gwaedlyd rhwng y Cymry a’r Saeson a fu’n ymladd am ganrifoedd am reolaeth yr ardal. Darllen mwy ›

 

Yn Rhuthun mae hanes a threftadaeth yn mynd law yn llaw. Mae cyfaneddiadau hynafol sy’n dyddio yn ôl i’r oes Geltaidd ynghyd â hanes Rhufeinig cyforiog - mae’r dref yn bodoli ers cannoedd o flynyddoedd. Adeiladwyd y castell yn ei leoliad trawiadol yn 1277 yn wreiddiol, ac roedd yn un o’r ychydig adeiladau a oroesodd pan losgodd Owain Glyndŵr y dref i’r llawr yn 1400.
Gellir gweld hanes a threftadaeth ymhobman hyd heddiw. Yn amrywio o adeilad pren Nantclwyd y Dre, adeilad rhestredig Gradd I, i’r carchar sy’n creu argraff dramatig, ac amrywiaeth anhygoel o adeiladau diddorol. Mae’r dref yn llawn pensaerniaeth gain a gadwyd i bawb ei fwynhau.  
Mae llawer o enwogion yn hanu o Rhuthun, yn cynnwys yr actor Rhys Ifans a chyn wraig John Lennon, Cynthia. Bu Julian, mab Lennon, yn ddisgybl yn Ruthin School yn yr 1980au.  
Mae Rhuthun yn rhan o’r digwyddiad treftadaeth adnabyddus, Drysau Agored, yn rheolaidd sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr weld y tu mewn i rai o adeiladau pwysicaf y dref am ddim, gyda llawer ohonynt yn agor eu drysau ar yr un penwythnos hwn yn unig. Cynigir teithiau tywys a hunan-dywysedig drwy gydol y flwyddyn.

Mae gan Rhuthun gyfran dda o chwedlau, ac mae straeon am ysbrydion a gweld ysbrydion yn britho’r dref. Darllen mwy ›

 

Mae gan Rhuthun gyfran dda o chwedlau, ac mae straeon am ysbrydion a gweld ysbrydion yn britho’r dref.

Bu’r arweinydd lleol Huail yn ymladd yn erbyn y Brenin Arthur dros un o feistresi’r Brenin, gan ei anafu yn ei benglin. Roedd Arthur yn fodlon cadw’r heddwch â Huail cyn belled nad oedd yn cyfeirio at yr anaf i’w benglin.
Bu sawl adroddiad am gwsmeriaid yn codi arian o fanc y NatWest yn clywed wylofain ysbrydion, efallai gan fod yr adeilad wedi ei ddefnyddio fel llys y dref ac roedd y man crogi wedi ei leoli uwchben lle mae’r peiriant ‘twll yn y wal’ yn awr.   
Mae rhith ysbryd yr Arglwyddes Grey, a oedd wedi ei lladd gan ei gŵr yn ôl y sôn, wedi ei weld sawl gwaith yn Rhuthun, yn enwedig o gwmpas y castell. Mae’r digwyddiadau eraill yn cynnwys trydanwr y bu i’r holl ddrysau gau’n glep arno tra’n gweithio yn y celloedd o’r ail ganrif ar bymtheg o dan y dref gan ei gaethiwo, a chafwyd sawl adroddiad o fod yn ymwybodol o bresenoldeb merch ifanc.
Hefyd yn ôl y sôn mae ci gwyllt yn byw yn y coedwigoedd o gwmpas y dref ac fe welwch chi ei lygaid coch brawychus yn syllu arnoch chi yn y tywyllwch.
Y stori a’r fideo  http://news.bbc.co.uk/local/northeastwales/hi/people_and_places/history/newsid_8278000/8278878.stm

Ystyrir Canolfan Grefft Rhuthun fel y ganolfan flaenllaw o ran arddangos Celfyddyd Gymhwysol Gyfoes yn y Deyrnas Unedig. Mae’n cynnwys gweithdai artistiaid, caffi, arddangosfeydd crefft ac orielau gwych. Darllen mwy ›

 

Mae’r celfyddydau a diwylliant yn rhan bwysig o fywyd Rhuthun. Mae gan y dref ei Chanolfan Grefft ei hun a’r Llwybr Celf.
Mae Canolfan Grefft Rhuthun yng ngwaelod y dref yn cynnwys chwe stiwdio a ddefnyddir gan grefftwyr dawnus, sy’n arddangos eu sgiliau traddodiadol yn rheolaidd, ynghyd ag ystafell addysg, canolfan groeso, orielau celf mawr a chaffi, a fydd yn ailagor yn fuan.
Cafodd y ganolfan grefft wreiddiol ei dymchwel yn 2008 ac adeiladwyd yr un newydd a welwn heddiw, a enillodd Wobr Dewi-Prys Thomas yn 2009. Roedd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cronfa Gelfyddyd 2009 a thynnwyd sylw at yr adeilad fel ‘Dyluniad Difyr’ gan Gomisiwn Dylunio Cymru.  

Mae gan Rhuthun lu o wrthrychau hardd naturiol ac wedi eu cynhyrchu gan ddyn. Saif y dref ar gefnen dywodfaen fawr sy’n edrych dros Ddyffryn Clwyd a’r Afon Clwyd. Darllen mwy ›

 

Mae rhan fwyaf yr adeiladau yn y dref, yn cynnwys y castell, wedi eu gwneud o’r garreg leol hon sy’n rhoi’r wawr goch nodweddiadol iddynt.
Mae Rhuthun yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Rydym wedi ein hamgylchynu gan olygfeydd godidog, ac rydym yn agos at ryfeddodau naturiol eraill fel traethau arfordir gogledd Cymru, Clawdd Offa – sy’n dynodi’r ffin naturiol â Lloegr – a Pharc Gwledig Loggerheads.  
Mae gan Rhuthun bensaerniaeth ardderchog ac adeiladau eithriadol ymhobman. Y castell yw canolbwynt y dref, ac mae adeiladau rhestredig Gradd I a Gradd II ymhobman yr edrychwch, a’r un mwyaf ysblennydd yw Nantclwyd y Dre. Tybir mai dyma’r tŷ pren hynaf sy’n goroesi yng Nghymru sy’n dyddio yn ôl i 1435. Mae’r carchar, tafarn y Myddleton Arms, Rose Cottage a Phlas Coch ymhlith yr adeiladau arwyddocaol eraill yn y dref. 

Mae Rhuthun lai nag awr o ddinasoedd a threfi poblog gogledd orllewin Lloegr. Dim ond hanner awr o’r arfordir i’r gogledd a mynyddoedd Eryri i’r gorllewin, lleoliad perffaith ar gyfer gweld y cyfan sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig. Darllen mwy ›

 

O Lannau Merswy: Ewch drwy’r naill dwnnel neu’r llall a mynd ar yr M53. Dilynwch yr arwyddion I ogledd Cymru, ar hyd yr A550 i’r A494. Arhoswch ar yr A494, gan basio’r Wyddgrug a dilyn yr arwyddion i Rhuthun. 
O Fanceinion: Ewch ar yr M56 i gyfeiriad y de, nes uno â’r A494. Arhoswch ar yr A494, gan basio’r Wyddgrug a dilyn yr arwyddion i Rhuthun.
O ogledd Lloegr: Gadewch yr M6 i’r de ar gyffordd 9, gan ddilyn yr M56 i gyfeiriad y de, nes uno â’r A494. Arhoswch ar yr A494, gan basio’r Wyddgrug a dilyn yr arwyddion i Rhuthun.
O ganolbarth/de Lloegr: Gadewch yr M6 i’r gogledd ar gyffordd 10A, gan fynd ar yr M54 tuag at Telford. Dilynwch yr A5 drwy Langollen i Gorwen a chwiliwch am yr arwydd A494 i Rhuthun. 
Mae’n bosibl dod ar drên i orsaf Wrecsam neu Gaer. Mae bysus rheolaidd o’r ddwy orsaf i Rhuthun. Ffoniwch
08712 002233 neu edrychwch ar www.travelinecymru.org.uk i gael manylion am y bysus.
Mae cwmni National Express yn gweithredu gwasanaethau i Wrecsam a Chaer yn ddyddiol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Edrychwch ar yr amserlenni ar wefan
www.nationalexpress.com neu ffoniwch 08705 808080.
Os am ddefnyddio’r llywiwr lloeren mae’r rhan fwyaf o leoedd yn Rhuthun yn defnyddio’r cod post LL15