Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcîs sy'n storio gwybodaeth amhersonol i'n cynorthwyo i wella ein gwefan.

Gerllaw

Mae Rhuthun mewn lleoliad perffaith i fod yn ganolbwynt i chi tra rydych chi’n canfod y cyfan sydd gan ogledd Cymru i’w gynnig. Rydym ynghanol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, nid nepell o arfordir prydferth gogledd Cymru ac ar y ffordd i ysblander mynyddoedd Eryri. 

Mae’n hawdd gweld pam bod hon yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Bydd yr olygfa o gopa Moel Famau yn cipio eich anadl ac mae Loggerheads yn leoliad gwych am ddiwrnod o hamdden gyda’r teulu. Darllen mwy ›

 

Mae’n hawdd gweld pam bod hon yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Bydd yr olygfa o gopa Moel Famau yn cipio eich anadl ac mae Loggerheads yn leoliad gwych am ddiwrnod o hamdden gyda’r teulu.

Saif Moel Famau, sy’n golygu mam y mynyddoedd, yn 1,821 troedfedd ar y copa ond mae’n hawdd ei gyrraedd o’r dref, gwta saith milltir i ffwrdd. Nid yw cweit digon uchel i’w alw’n fynydd ond mae’n cynnig her i’r rhan fwyaf o gerddwyr brwdfrydig.

Mae’n rhoi ei enw i’r parc gwledig o’i amgylch ac yn eistedd yn union ynghanol yr ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae’r golygfeydd o’r copa yn wefreiddiol ac yn werth yr ymdrech. Ar ddiwrnod clir mae’n bosibl gweld Ynys Manaw, Lerpwl a Chilgwri, rhannau o Cumbria, Tŵr Blackpool ac Afon Dyfrdwy, yn ogystal â threfi lleol yng ngogledd Cymru, yn cynnwys Rhuthun, wrth gwrs.

Mae arfordir gogledd Cymru yn enwog fel y glannau gorau yn wlad. Darllen mwy ›

 

Mae arfordir gogledd Cymru yn enwog fel y glannau gorau yn wlad. Mae gan y Rhyl, Prestatyn a Bae Colwyn draethau euraidd eang a môr sy’n disgleirio yn yr heulwen, tra bo Llandudno, ychydig ymhellach draw, yn dref glan y môr Fictoraidd gwefreiddiol sy’n cynnig cyfle i fynd mewn car cebl i ben y Gogarth.

Mae digonedd o lwybrau i gerddwyr o gwmpas y glannau a gallant fynd i Ben y Gogarth a Thrwyn y Gogarth sy’n cynnig golygfeydd gwych dros Afon Menai a geifr y Gogarth! Mae llwybrau arfordirol i’w mwynhau ar Fynydd Conwy a rhwng Bae Talacre a Phrestatyn hefyd.

Ysblander mynydd uchaf Cymru yw un yn unig o nodweddion y tirwedd hynod hwn – mae coetiroedd, llynnoedd, dyffrynnoedd, hanes Cymru a diwylliant Cymreig funudau yn unig oddi wrth Rhuthun. Darllen mwy ›

 

Ysblander mynydd uchaf Cymru yw un yn unig o nodweddion y tirwedd hynod hwn – mae coetiroedd, llynnoedd, dyffrynnoedd, hanes Cymru a diwylliant Cymreig funudau yn unig oddi wrth Rhuthun.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gorchuddio 823 milltir o dirweddau amrywiol, yn ardal sy’n gartref i dros 26,000 o bobl ac yn ardal weithiol. Yn ogystal â bod y Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru mae hefyd yn cynnwys y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, a’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, ynghyd â llu o bentrefi gwefreiddiol fel Betws y Coed a Beddgelert. Mae Eryri yn ardal sy’n llawn diwylliant a hanes lleol, lle mae mwy na hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg.

Mae Eryri yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn sy’n mwynhau’r tirweddau rhyfeddol a’r cyfoeth o weithgareddau awyr agored a gynigir.

Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.visitsnowdonia.info/

Dyluniwyd ac adeiladwyd y pentref gan Syr Clough Williams-Ellis ar arddull pentref Eidalaidd. Bu Portmeirion yn leoliad i nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu – yr enwocaf o bosib oedd Y Pentref yn y gyfres gwlt o’r 1960au ‘The Prisoner’.
Darllen mwy ›

 

Dyluniwyd ac adeiladwyd y pentref gan Syr Clough Williams-Ellis ar arddull pentref Eidalaidd. Bu Portmeirion yn leoliad i nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu – yr enwocaf o bosib oedd Y Pentref yn y gyfres gwlt o’r 1960au ‘The Prisoner’.

Y syniad y tu ôl i’r casgliad o dai a siopau lliwgar wedi eu clystyru ar lan aber yr afon Dwyryd oedd adeiladu rhywle y gellid ei fwynhau am yr hyn ydyw, a lle byddai pobl yn ystyried y berthynas rhwng adeiladau a’r tirwedd.

Heddiw mae’r pentref yn atyniad twristaidd sy’n eiddo i ymddiriedolaeth elusennol. Yn y canol mae Castell Deudraeth sy’n gweithredu fel gwesty bellach, ac mae’n defnyddio nifer o’r adeiladau cyfagos fel ystafelloedd llety ychwanegol a siopau.

Edrychwch ar wefan www.portmeirion-village.com am ragor o wybodaeth a phrisiau tocynnau.

Strwythur pridd o’r wythfed ganrif sy’n dynodi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Gellir mynd ar y llwybr ychydig filltiroedd o Rhuthun. Mae’n Llwybr Cenedlaethol ac mae llu o fannau diddorol i ymweld â nhw ar y daith. Darllen mwy ›

 

Strwythur pridd o’r wythfed ganrif sy’n dynodi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Gellir mynd ar y llwybr ychydig filltiroedd o Rhuthun. Mae’n Llwybr Cenedlaethol ac mae llu o fannau diddorol i ymweld â nhw ar y daith.

Adeiladwyd y clawdd yn ystod teyrnasiad y Brenin Offa, brenin Sacsonaidd pwerus ac mae’r clawdd wedi’i enwi ar ei ôl. Erbyn heddiw mae llwybr 177 milltir o hyd yn mynd o Brestatyn i Glogwyni Sedbury ar aber yr Afon Hafren gan fynd heibio llawer o adfeilion a chestyll gorau gogledd Cymru ac mae’n boblogaidd iawn efo cerddwyr.

Mae Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn drysor cudd a mam eglwys Esgobaeth Llanelwy. Y Gadeirlan yw cartref Beibl William Morgan ac mae’n darparu cyswllt hanfodol bwysig â diwylliant a llenyddiaeth Gymraeg. Cewch fynediad am ddim ond croesewir cyfraniadau. Darllen mwy ›

 

Mae Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn drysor cudd a mam eglwys Esgobaeth Llanelwy. Y Gadeirlan yw cartref Beibl William Morgan ac mae’n darparu cyswllt hanfodol bwysig â diwylliant a llenyddiaeth Gymraeg. Cewch fynediad am ddim ond croesewir cyfraniadau.  

Adeiladodd Sant Cynderyn ei eglwys yma yn 560 Oed Crist. Pan ddychwelodd i Ystrad Clud yn 573 Oed Crist gadawodd Asaff fel ei olynydd. Ers hynny mae’r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i Sant Asaff ac mae enw Saesneg yr esgobaeth yn arddel ei enw.

Dechreuwyd adeiladu’r adeilad presennol yn y drydedd ganrif ar ddeg a dywedir mai hon yw’r gadeirlan hynafol leiaf ym Mhrydain. Mynediad am ddim ond mae croeso i chi roi cyfraniad.

Eglwys Gadeiriol Llanelwy, Stryd Fawr, Llanelwy, LL17 0RD

01745 582245

stasaphcathedral@churchinwales.org.uk

Ewch i archwilio Castell Rhuddlan a’i gynllun gosod unigryw ar ffurf diamwnt. Bu gan y castell mawreddog hwn le pwysig yn hanes Cymru; yma y sefydlwyd system newydd o lywodraethu gan Loegr dros lawer o Gymru dan Statud Rhuddlan yn 1284. Darllen mwy ›

 

Ewch i archwilio Castell Rhuddlan a’i gynllun gosod unigryw ar ffurf diamwnt. Bu gan y castell mawreddog hwn le pwysig yn hanes Cymru; yma y sefydlwyd system newydd o lywodraethu gan Loegr dros lawer o Gymru dan Statud Rhuddlan yn 1284.

Dyluniad consentrig sydd i’r castell, yn cynnwys ward fewnol wedi ei diogelu’n gadarn, ar batrwm cymesur, wedi ei hamgylchynu’n llwyr gan ward allanol.

Roedd gwahanol adeiladau, yn cynnwys y brif neuadd, ceginau, llofftydd preifat a chapel yn y ward fewnol yn erbyn y cysylltfur; mae rhai olion o’u sylfeini yn parhau. Roedd y ward allanol yn cynnwys granar, stablau, gefail, y trysorlys a gweithdy’r gof aur, ond ni ellir gweld fawr ddim o’r adeiladau hyn erbyn heddiw.  

Castell Rhuddlan – yr oriau agor yw 10.00 - 17.00, Ebrill – Hydref. Mae ar gau yn ystod y gaeaf. Y pris mynediad yw £3.40 i oedolion a £2.55 i’r rhai sy’n gymwys ar gyfer gostyngiad. Pris tocyn teulu yw £10.20 i ddau oedolyn a thri phlentyn dan 16 oed.

Mae’r bryngaer carnedd o’r Oes Efydd, Penycloddiau yn Sir y Fflint, yn ffurfio rhan o gadwyn o fryngaearau ym Mryniau Clwyd. Darllen mwy ›

 

Mae’r bryngaer carnedd o’r Oes Efydd, Penycloddiau yn Sir y Fflint, yn ffurfio rhan o gadwyn o fryngaearau ym Mryniau Clwyd.

Mae’n amlgloddiog, gyda llu o ffosydd consentrig, a blaenfuriau eang i’r gogledd a’r gogledd orllewin. Mae’r ffin sirol hanesyddol rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn dilyn llawer o’r gwrthglawdd gorllewinol.

Mae dwy fynedfa wreiddiol, un i’r de a’r llall hanner ffordd ar hyd y rhagfur dwyreiniol. Awgryma’r dystiolaeth fod tai wedi eu hadeiladu o gwmpas ymyl y bryngaer i fanteisio ar y cysgod gan y cloddiau uchel a’r ffens bren uchel a fyddai wedi bod ar ben y clawdd. Efallai fod pyllau ynghanol y bryngaer wedi darparu dŵr i’r trigolion. Mae’n bosibl bod pobl wedi bod yn defnyddio’r safle hyd yn oed cyn yr Oes Haearn ac mae tystiolaeth o domen gladdu o’r Oes Efydd ym mhen gogleddol y bryn.

weld o’r clasty i’r cabidyldy. Yr abaty hwn yw’r un sydd wedi goroesi orau yng Nghymru. Mae llyn pysgod y mynachod yn parhau’n llawn dŵr! Darllen mwy ›

 

Cafodd yr abaty trawiadol yma ei siapio gan natur ddefosiynol y preswylwyr, y mynachod Sistersaidd, a’u dylanwad i’w weld o’r clasty i’r cabidyldy. Yr abaty hwn yw’r un sydd wedi goroesi orau yng Nghymru. Mae llyn pysgod y mynachod yn parhau’n llawn dŵr!

Roedd yr abaty yn hynod o hunangynhaliol diolch i’r brodyr lleyg. Roeddent yn hapus i adael mynachod y côr i’w gweddïo tra eu bod yn bwrw ymlaen â’r dasg o drin y tir. Ffrindiau oll ynghyd? Ddim yn union. Roedd y mynachod yn cadw at eu gweddïau dyddiol yn y côr, gyda sgrîn yn eu gwahanu oddi wrth y brodyr lleyg a oedd yn addoli yng nghorff eglwys yr abaty.

Ond nid oedd bywyd yn hawdd, dioddefodd yr abaty dân difrifol ac ymosodiadau niferus ond aeth ymlaen i wneud enw iddo’i hun fel cadarnle’r celfyddydau llenyddol. Yn 1535 roedd yn cael ei gyfri yn fynachlog Sistersaidd ail gyfoethocaf y wlad, yn ail i Tyndyrn. Erbyn hyn roedd y Sistersiaid wedi ymlacio eu llymder traddodiadol. Crewyd ystafell gyfforddus wedi’i gwresogi ar gyfer yr abad. Ond ni wnaeth y lletygarwch a’r cyfoeth newydd hwn barhau’n hir. Cafodd Abaty Glyn y Groes ei ddiddymu drwy orchymyn brenhinol yn 1537.

Mae’n werth ymweld â’n tref gyfagos i weld y castell a muriau’r dref o’r cyfnod canoloesol ynghyd â’r llu o adeiladau diddorol o gyfnod Elisabeth a’r golygfeydd godidog ar draws Dyffryn Clwyd. Darllen mwy ›

 

Mae’n werth ymweld â’n tref gyfagos i weld y castell a muriau’r dref o’r cyfnod canoloesol ynghyd â’r llu o adeiladau diddorol o gyfnod Elisabeth a’r golygfeydd godidog ar draws Dyffryn Clwyd.

Tref farchnad hanesyddol yw Dinbych. Bu’n gartref i dywysogion a iarlloedd, gwrthryfelwyr a chwyldroadwyr, lle mae haen ar ben haen o hanes wedi siapio pensaerniaeth y dref a chymeriad y bobl.

Cewch ymlacio yn un o dafarndai traddodiadol y dref lle mae pobl wedi bod yn mwynhau bwyd go iawn a sgwrsio am fwy na 500 mlynedd, neu fynd i weld y Castell a cherdded ar hyd y muriau sydd wedi amddiffyn y dref am naw canrif.

Yn cynnwys gerddi cudd a mwy o adeiladau rhestredig nag unrhyw dref arall yng Nghymru rydych chi’n debygol o ganfod trysor cudd wrth droi bob cornel – ond mae Dinbych yn gymuned weithiol sy’n byw yn y presennol ac mae’r celfyddydau yn ffynnu ac mae ystod wych o siopau, caffis, tafarnau a bwytai annibynnol.

Gwnewch y daith 20 munud drwy Fwlch yr Oernant ac fe gyrhaeddwch chi’r dref Fictoraidd brysur yn Llangollen. Cofiwch fynd i weld y trenau stêm a’r cychod ar y gamlas sy’n cael eu tynnu gan geffylau dros ddyfrbont Pontcysyllte. Darllen mwy ›

 

Gwnewch y daith 20 munud drwy Fwlch yr Oernant ac fe gyrhaeddwch chi’r dref Fictoraidd brysur yn Llangollen. Cofiwch fynd i weld y trenau stêm a’r cychod ar y gamlas sy’n cael eu tynnu gan geffylau dros ddyfrbont Pontcysyllte.

Mae gan Langollen, sy’n enwog am y bryniau o’i chwmpas a’r Afon Dyfrdwy, rywbeth at ddant pawb. Mae’n cynnwys ystod rhyfeddol o gaffis, bariau, gwestai, bwytai, gwestai gwely a brecwast, bythynnod gwyliau a gwersyllfeydd sy’n gweddu i bawb. Mae’r dref hon hefyd yn cynnwys cyfoeth o siopau annibynnol i grwydro o’u cwmpas a lleoedd diddorol i ymweld â nhw. Ewch am dro ar hyd Promenâd Fictoria, cael picnic ym Mharc Glan yr Afon neu wylio’r afon yn llifo i lawr o dan y bont. Yn achos y rhai sy’n teimlo’n fwy egnïol mae ystod lawn o weithgareddau awyr agored ar gael.

Os ydych chi’n ymweld yn ystod yr haf cofiwch ymweld ag Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen, un o wyliau mwyaf lliwgar y byd. Mae pob diwrnod ar faes yr eisteddfod yn llawn gweithgarwch amrywiol - cystadlaethau ar y llwyfan, gweithdai a chanu a dawnsio byrfyfyr o bob cwr o’r byd.