Digwyddiadau
Digwyddiadau
Estynnir gwahoddiad i unrhyw un â diddordeb mewn helpu Tîm Tref Rhuthun wella amgylchedd y dref.
Cynhelir y sesiwn nesaf i wirfoddolwyr cymunedol ddydd Sadwrn, 23 Chwefror, 11am - 1pm - cyfarfod wrth yr Hen Lys, Sgwâr Sant Pedr.
Mae'r gwirfoddolwyr yn targedu lleolia penodol bob mis, ac yn casglu sbwiriel, tacluso, paentio meinciau, torri llwyni a golchi gyda pheiriant golchi jet.
Felly beth am gymryd rhan yn y sesiwn nesaf? Croeso cynnes i bawb.