Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcîs sy'n storio gwybodaeth amhersonol i'n cynorthwyo i wella ein gwefan.

Bwyta Yfed a Siopa

Mae ein cyfoeth o hanes wedi siapio pensaerniaeth y dref ac mae’n eich amgylchynu ar sgwâr y dref. Mae adeiladau 600 oed yn parhau i gael eu defnyddio heddiw fel banciau, siopau ac adeiladau dinesig. A oeddech chi’n sylweddoli fod copïau cyntaf anthem genedlaethol Cymru wedi eu hargraffu yn yr adeilad sy’n gartref i Siop Nain heddiw yn Stryd y Ffynnon?

Croeso i Oriel Canolfan Grefft Rhuthun
Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol
Mae trawsnewidiad Canolfan Grefft Rhuthun gydag arian Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru yn awr wedi’i gwblhau. Darllen mwy ›

 

Mae’r ail-ddatblygiad rhyfeddol hwn a gynlluniwyd gan Sergison Bates wedi’i leoli yn yr un fan ag o’r blaen o fewn ei dirwedd ei hun ac y mae’n adeilad deinamig o sinc a charreg bwrw gyda thoeau tonnog yn adlais o Fryniau Clwyd.

Mae'n cynnwys tair oriel, chwech stiwdio ar gyfer artistiaid, oriel mânwerthu, gweithdai addysgol a phreswyl, gwybodaeth i dwristiaid a bwyty gyda theras awyr agored, a ailagorodd dan reolaeth newydd. Ar agor 7 diwrnod yr wythnos.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824704774


Canolfan Grefft Rhuthun, Heol y Parc, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1BB

Mewn lleoliad gwych yn sgwâr y dref, dewch draw i gael pryd o fwyd cartref, ffres, brechdanau neu amrywiaeth o gacennau.
Darllen mwy ›

 

Mwynhewch baned, brecwast, cinio neu gacennau a sgons cartref.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 707000


13 Sgwâr Sant Pedr
Rhuthun
LL15 1AA

Croeso i Ruthin Wholefoods Darllen mwy ›

 

Croeso i Ruthin Wholefoods

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 702778
en-gb./RuthinWholefoods


58-60 Well Street
Ruthin
LL15 1AW

Gwerthwyr bwydydd a gwinoedd cain, sy'n arbenigo mewn arlwyo allanol a phrydau cludo wedi eu teilwra. Lleolir Leonardo's Delicatessen ar gyrion Sgwâr Sant Pedr ym mhen uchaf Stryd y Ffynnon. Darllen mwy ›

 

Sefydlwyd y busnes gan dîm gwr a gwraig, ac mae sgiliau'r cogydd Andreas Brunzel yn amlwg yn yr amrywiaeth eang o eteimau deli a phobi sy'n cael eu bwyta'n awchus gan gwsmeriaid, tra bo chwaeth a greddf Ceris Brunzel-Roberts i ganfod nwyddau o ansawdd uchel wedi cynhyrchu siop sy'n llawn o ddanteithion o'r radd flaenaf.

Dydd Llun i Ddydd Sadwrn 09.30 • 17.30

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 707161
Gwefan: leonardosdeli.co.uk


4 Stryd y Ffynnon, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1AE

Siop Bapurau Castle Bell Darllen mwy ›

 

Siop bapurau newydd traddodiadol - yn danfon papurau newydd yn Rhuthun a'r pentrefi cyfagos.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 707979
/Castlebellnews


5-7 Stryd Clwyd, Rhuthun, LL15 1HF.

Busnes teuluol sy'n arbenigo mewn dillad dynion, dillad gwledig a dillad ffurfiol. Darllen mwy ›

 

Cynigiwn ystod eang o nwyddau o'r radd flaenaf gan brif gynhyrchwyr o Brydain a'r cyfandir yn cynnwys Magee, Barbour, Bruhl, Viyella, Melka, Loake ac esgidiau Anatomic Gel. Mae gennym ddewis o ddillad merched Barbour hefyd. Mae gennym ni ADRAN HURIO gynhwysafwr hefyd ar gyfer siwtiau i giniawau gyda'r nos a phriodasau ac ategolion. Mae gennym ni ein stoc ein hunain, felly rydych chi'n medru gwisgo'r dillad er mwyn dewis y maint a'r lliw sy'n gweddu I chi.

MAE GENNYM EIN LLE PARCIO EIN HUNAIN Y TU ÔL I'R SIOP.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 702061
Gwefan: treforjones.co.uk


12 Stryd Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1HW

Wedi ei lleoli yn un o adeiladau siop hanner coediog hynaf Rhuthun, mae siop Hideaway yn parhau â’r grefft draddodiadol o wneud lledr. Yr ydym yn cynnig amrywiaeth o eitemau i’r cartref, gan arbenigo mewn darnau unigryw wedi eu mowldio â llaw. Darllen mwy ›

 

Gallwn hefyd gynhyrchu eitemau ymarferol megis gwregysau, coleri a thenynnau cŵn. Gallwn hefyd ystyried gwaith comisynedig.Galwch i mewn i gael profi gweithdy bach a prysur ar waith!

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824704889
Gwefan: hideawayruthin.co.uk


24 Stryd Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1HW

Detholiad wedi eu dewis yn ofalus o bob cwr o'r byd. Mae Mococo yn cynnig amrywiaeth o gadwyni, modrwyau, clustdlysau, breichledau a oriawrau wedi eu dewis yn ofalus a'u mewnforio o bob rhan o'r byd. Darllen mwy ›

 

Mae pawb yn cael croeso a gofal cwsmer enwog Mococo. Mae'r cwmni wedi creu sylfaen o gwsmeriaid ffyddlon a selog sy'n hoffi galw heibio i weld ein ystod eang o dlysau Pandora a Thomas Sabo.

Mae rhai pobl eisiau cyngor, rhai am gymryd eu hamser, ond mae pawb yn cael y gwasanaeth cwsmer enwog.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 705998
E-bost:
Gwefan: mococo.co.uk/stores/ruthin


Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1AA

Ni yw'r gwerthwyr dodrefn Pine and Oak Direct sydd wedi bod yma ers dros ugain mlynedd. Darllen mwy ›

 

Rydym ni'n arbenigo mewn dodrefn ystafell wely a matresi ac mae gennym ni ddewis eang o ddreseri, byrddau, cadeiriau, cypyrddau llyfrau a dodrefn i'r ystafell fyw. Hefyd mae gennym ni ddewis eang o ddodrefn fel cadeiriau gorffwyso Stressless a chadeiriau a soffas Sherborne.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 707295
Gwefan: pineandoakdirect.co.uk


Unedau 1-3, Ystâd Ddiwydiannol Lôn Parcwr, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1NJ

Cymysgedd ysbrydolgar o ddodrefn hen a newydd, nwyddau i'r cartref, hen drysorau, anrhegion delfrydol a hen bethau unigryw. Dodrefn derw a phîn, ceginau, crochenwaith Bridgewater, nwyddau Cath Kidston, gwasanaeth gwneud eitemau yn ôl mesuriadau a dodrefn Darllen mwy ›

 

Lampau, clustogau a nwyddau eraill chwaethus o'n catalogau. Dodrefn Lloyd Loom, dewis o fatresi ansawdd uchel a gwasanaeth adfer dodrefn.

Busnes teuluol sy'n cynnig gwasanaeth cyfeillgar a dibynadwy bob amser.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 702852
E-bost:
Gwefan: homewoodbound.com
en-gb./Homewood-Bound-Collections-129134387169676


Yr Hen Orsaf, Rhewl, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1TN

Caffi Florence Darllen mwy ›

 

Caffi sydd wedi ennill gwobrau Blas ar Gymru yng nghanol Parc Gwledig Loggerheads, y porth i Fryniau Clwyd.

Cynigir brecwast, cinio, te prynhawn, hufen ia a byrbrydau wedi eu cynhyrchu yn y caffi gan ddefnyddio deunyddiau lleol. Ystod eang o gacennau cartref blasus.

Wedi ei argymhell fel un o'r 10 uchaf am frecwast yn y Deyrnas Unedig. Rhaglen o weithdai a digwyddiadau arbennig amrywiol drwy gydol y flwyddyn.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01352 810397
E-bost:
Gwefan: caffiflorence.co.uk
@caffiflorence
/caffi.florence


Caffi Florence, Parc Gwledig Loggerheads, Ffordd Rhuthun, Loggerheads, Sir Ddinbych, CH7 5LH.

Bwyd gwych, gwinoedd godidog, cwrw go iawn a thanau agored mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Darllen mwy ›

 

Mae gennym ni'n fwydlen a'r lleoliad i weddu i'ch gofynion chi. Ffoniwch i drefnu bwrdd os gwelwch yn dda.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 790218
Gwefan: whitehorserestaurant.co.uk
/White.Horse.Hendrerwydd


Croesffordd y B5429, Hendrerwydd, Sir Ddinbych, LL16 4LL