Busnesau lleol
Mae ein cyfoeth o hanes wedi siapio pensaerniaeth y dref ac mae’n eich amgylchynu ar sgwâr y dref. Mae adeiladau 600 oed yn parhau i gael eu defnyddio heddiw fel banciau, siopau ac adeiladau dinesig. A oeddech chi’n sylweddoli fod copïau cyntaf anthem genedlaethol Cymru wedi eu hargraffu yn yr adeilad sy’n gartref i Siop Nain heddiw yn Stryd y Ffynnon?
Trysorfa o anrhegion, cardiau, eitemau gwydr a llawer mwy! Mae rhywbeth at ddant pawb yma - rhai nwyddau traddodiadol, retro, gwahanol, a llu o eitemau wedi'u gwneud â llaw a dyluniadau gwreiddiol wedi'u fframio. Rhaid galw heibio! Darllen mwy ›
Prisiau rhesymol a nwyddau ansawdd hyfryd.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 308359
E-bost:
Gwefan: stateofdistress.co.uk
14 Sgwâr Sant Pedr
Rhuthun
LL15 1AA
Busnes teuluol yw Ruthin Décor sydd wedi bod yn cynnig cyngor arbenigol a chyfeillgar ar baent, papur wal, teils a goleuadau am dros bymtheg mlynedd. Gwerthwyr lleol y brand enwog Farrow & Ball, gydag un o'r arddangosfeydd goleuadau mwyaf yn yr ardal. Darllen mwy ›
Mae Ruthin Décor mewn lleoliad amlwg yn ardal siopa Stryd y Ffynnon. Mae maes parcio mawr i gwsmeriaid oddi ar yr A525 Ffordd yr Orsaf sy'n gyfleus ar gyfer y rhwydwaith priffyrdd. Rydym ni ar agor saith diwrnod yr wythnos felly mae gennych chi ddigonedd o amser i benderfynu ar deils neu bapur wal newydd, neu i alw heibio i nôl unrhyw eitem rydych chi wedi'i anghofio ar ddydd Sul. Os ydych chi ar eich gwyliau rydym ni'n gallu trefnu danfon nwyddau ledled y Deyrnas Unedig ac i rai o wledydd Ewrop, felly os ydych chi'n gweld rhywbeth a fyddai'n berffaith i'ch cartref chi, gellir gwneud trefniadau priodol. Galwch heibio am ysbrydoliaeth i'ch cartref, p'un ai'n fwthyn neu'n gastell.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 702849
E-bost:
Gwefan: ruthindecor.co.uk
@https://twitter.com/RuthinDecor
/RuthinDecor
51 - 53 Stryd y Ffynnon
Rhuthun
LL15 1AF
Cwmni Trin Gwallt Tommy Darllen mwy ›
Mae'r genhedlaeth nesaf o griw trin gwallt Tommy's ar bigau'r drain i ddangos eu sgiliau i chi.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 709977
E-bost:
Gwefan: tommyshaircompany.com
69 Stryd Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1HN
Cyflenwyr dillad cefn gwlad o'r radd flaenar ar gyfer dynion, marched a phlant. Mae ein nwyddau yn cynnwys siacedi saethu a dillad saethu cyffredinol, esgidiau cerdded, sanau cerdded a dillad gwrthddwr. Mae modd siopa ar-lein neu yn y siop. Darllen mwy ›
Mae ein brandiau yn cynnwys Hoggs of Fife, Muck Boots, Grisport Boots, 1000mile socks, Sherwood Forest Country Clothing, Dexshell, Sealskinz, Hi Tec i enwi rhai yn unig.
Dewch draw i'r siop neu edrych ar ein gwefan am syniadau ar gyfer anrhegion i saethwyr, ffermwyr a'r rhai sy'n mwynhau cerdded.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01978 437029
E-bost:
Gwefan: cherrytreecountryclothing.com
@http://www.twitter.com/cherrytclothing
/cherrytreecountryclothing
Uned 11A Ffordd Helyg
Lon Parcwr
Rhuthun
LL15 1NJ
Nod Accord PR yw gwneud cysylltiadau cyhoeddus yn hygyrch, tra'n cynnig buddion clir a mesuradwy i fusnesau. Darllen mwy ›
Bydd Accord PR yn gweithio â'r amcanion busnes chi, o un datganiad i'r wasg i ymgyrch strategol barhaus, i sicrhau canlyniadau go iawn, heb y prisiau a godir gan asiantaethau mawr. Hefyd mae Accord yn cynnig pecyn marchnata arbennig i fusnesau newydd, yn cynnwys logo, gwefan a deunyddiau marchnata. Holwch am y 'Biz Launchpad' pan fyddwch chi'n cysylltu â ni.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 702030
E-bost:
Gwefan: accordpr.co.uk
@Accord_PR
/accordpr
Canolfan Busnes Birch House
Hen Lôn Parcwr
Rhuthun
LL15 1NA
Rydym ni'n gwerthu poteli a jariau gwydr, offer cadw gwenyn, nwyddau cwyr gwenyn a nwyddau iechyd naturiol cychod gwenyn. Darllen mwy ›
Busnes teuluol wedi'i leoli yn Nyffryn Clwyd ger Rhuthun, Sir Ddinbych.
Roeddem ni'n gwerthu offer cadw gwenyn i ddechrau, ond ers hynny mae'r busnes wedi ehangu i gynnig ystod eang o boteli, jariau a chynwysyddion bwyd, gwin ac aromatherapi, yn ogystal â chyflenwadau cadw gwenyn. i
Ein nod yw gwerthu ar brisiau isel cystadleuol, gan gynnig lefel uchel o wasanaeth personol ac anfon nwyddau'n brydlon.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01978 790279
E-bost:
Gwefan: cwynnejones.com/store
Ty Brith, Pentrecelyn, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2SR
Mae cwmni Dylunio Gwefannau Brown Hen yn cynnig gwefannau pwrpasol ar gyfer busnesau bychain yng ngogledd Cymru, yn enwedig y rhai sy'n gweithredu yn y sector twristiaeth. Darllen mwy ›
Os ydych chi'n dymuno gwneud y defnydd gorau o Tripadvisor, mapiau Google a geiriau hysbysebu i hyrwyddo eich busnes, cysylltwch â ni.
Wedi ein lleoli yn Nyffryn clodwiw Clwyd yng Ngogledd Cymru - mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol - mae'r tîm yn falch o gynnig gwasanaeth personol, ystod eang o gynhyrchion a chyflenwi 24 awr os yw'n ofynnol.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 704008
E-bost:
Gwefan: brown-hen.co.uk
Plas Efenechtyd Cottage Efenechtyd Ruthin, Denbighshire, LL15 2LP, United Kingdom.
Cwmni bychan, dynamig a phersonol iawn yw Businesswork Solutions sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau cyfrifyddu, cyflogres, Treth ar Werth a threth i fusnesau ac unigolion. Darllen mwy ›
Rydym ni yma hefyd i ddarparu cyngor ymarferol ar wahanol agweddau cyfrifon a chyflogres sydd weithiau'n tynnu eich sylw oddi wrth gynnal busnes llwyddiannus.
Ein nod yw cynorthwyo ein cleientiaid i wireddu potensial eu busnes drwy ddarparu'r amrediad llawn o wasanaethau ac arbenigedd sy'n eu cefnogi o ran eu hanghenion busnes.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 703350
E-bost:
Gwefan: businessworksolutions.co.uk
Businesswork Solutions Ltd, Business House, 47 Erw Goch, Ruthin, LL15 1RS.
Yn flaenllaw yn y sector a dan arweiniad rhai o'r bobl eiddo gorau a mwyaf profiadol yn y wlad, Cavendish Residential yw gwerthfawr tai blaenaf gogledd Cymru a Sir Gaer. Darllen mwy ›
Mae'r partneriaid yn y busnes wedi hen ymsefydlu yn y diwydiant ac maent yn adnabyddus am eu dull gweithio rhagweithiol ac ymarferol. Maent wedi parhau ar y blaen i'w cystadleuwyr drwy ddarparu gofal cwsmer o'r radd flaenaf, cadw at werthoedd traddodiadol a manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf.
Gweithredir o 9 swyddfa mewn lleoliad strategol, ac mae ein holl bartneriaid a staff gwerthu yn bobl leol sy'n meddu ar wybodaeth fanwl am eich ardal.
Mae'r bobl yn Cavendish Residential yn ymroddgar ac wedi eu hyfforddi i lefel uchel, ac yn cymryd cyfrifoldeb personol am werthu eich eiddo. Llwyddodd Cavendish Residential i barhau'n sefydlog yn ystod y dirywiad yn y farchnad, gan wella eu henw da fel y gorau yn y diwydiant. Rydym ni'n falch o ddweud fod hyn yn sicr oherwydd ein pobl. Maen nhw'n gwneud gwahaniaeth.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 703030
E-bost:
Gwefan: cavendishresidential.com
@Cavendish_res
/CavendishResidential
St Peters Square, Ruthin, Denbighshire, North Wales, LL15 1AE.
Clwyd Connection Darllen mwy ›
Mae cylchgrawn Clwyd Connection wedi cynorthwyo pobl leol i ddod o hyd i'r cwmnïau lleol gorau ers nifer o flynyddoedd. Dosberthir y cylchgrawn i 8000 o gartrefi yn yr ardal bob mis ac mae ar gael o'r Llyfrgell, y Swyddfa Bost a'r Ganolfan Grefft. Os ydych chi'n ymweld â'r ardal gwnewch yn siwr eich bod yn cael copi ac yn canfod mwy am yr hyn sydd gan y dref i'w gynnig.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 707013
E-bost:
Gwefan: connectionmagazines.co.uk
@connection_mags
/ConnectionMags
16 Parc Alun
Mold
Flintshire
CH7 1LQ
Mae Glasdir yn ddatblygiad hyfrd o gartrefi newydd 3, 4 a 5 ystafell wely. Darllen mwy ›
Mae cynigion a chymelliannau wedi eu teilwra i weddu i bawb, yn cynnwys cymhelliant i brynwyr am y tro cyntaf i'r rhai sy'n awyddus i fod yn berchennog eiddo am y tro cyntaf a'n cynllun 'Easy Mover' poblogaidd i'r rhai â chartref i'w werthu.
Manylion Cyswllt:
E-bost:
Gwefan: taylorwimpey.co.uk
@taylorwimpey
/taylorwimpey
8 Castle Street, Ruthin, Denbighshire, LL15.
Gwasanaethau llunio cyfrifon llawn, archwilio a threthiant ar gyfer unigolion, partneriaethau, cwmnïau ac elusennau. Darllen mwy ›
Cyflogres, cadw cyfrifon, TAW a chyfrifon SAGE yn cynnwys hyfforddiant. Cynllunio busnes, ceisiadau am grantiau a chyllid, ffurfio cwmni, prynu a gwerthu busnesau a chynllunio ar gyfer ymddeol.
Cysylltwch â ni yn awr am ymgynghoriad dechreuol am ddim ac edrychwch ar ein gwefan www.hicksrandles.co.uk
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 702403
Gwefan: hicksrandles.co.uk
Fawcett House, 4 Stryd y Llys, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1DS
Mae'r busnes wedi ei sefydlu ers yr 1960au, ac rydym ni'n arwain y farchnad o ran systemau glanhau llif dwr i'r polyn, ac yn ymdrin ag eiddo preswyl, masnachol a diwydiannol. Rydym ni'n gweithredu trwy Sir Ddinbych gyfan a'r ardaloedd cyfagos. Darllen mwy ›
Mae gennym yswiriant atebolrwydd y cyhoedd am £5 miliwn! Gwasanaethau glanhau o'r radd flaenaf - rydym ni'n gadael pob un o'r cwsmeriaid gwerthfawr yn gwbl fodlon â'u ffenestri clir. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys: Glanhau ffenestri, glanhau landeri, glanhau pibellau dwr glaw. Rydym ni'n cydymffurfio'n llwyr â gofynion iechyd a diogelwch BAE Systems ac Airbus, ac rydym yn falch o gynnig glanhawyr benywaidd a gwrywaidd i weddu i chi, felly os ydych chi'n chwilio am y gwasanaeth glanhau sy'n gweithredu 7 diwrnod yr wythnos ac ateb eich anghenion, nid oes angen edrych ymhellach.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 702319
Gwefan: electricwindowcleaner.com
Well Street, Ruthin, Denbighshire, LL15
Loading Ramps Darllen mwy ›
Rampiau sy'n plygu ar gyfer llwytho nwyddo ar gerbydau masnachol ysgafn.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 707717
3 Ffordd Celyn, Lon Parcwr Business Park, Ruthin, Denbighshire, LL15 1NJ
Steve Hughes Signs - darparwydd arwyddion, baneri a graffeg Darllen mwy ›
Darparwyr:
Graffeg ar gerbydau
Baneri
Arwyddion Iechyd a Diogelwch
Arwyddion cyffredinol
Arwyddion fferm
Sticeri
Hysbysfyrddau siâp A
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 703747
Yr Iard, Hen Lôn Parcwr, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1NA
Mae Steven Roberts yn cynnig ystod gyflawn o wasanaethau adeiladu a gwaith coed. Mae gan Steven dros 15 mlynedd o brofiad ymhob math o waith adeiladu, adfer a gwaith saer. Darllen mwy ›
Mae Steven yn adeiladwr ar restr cymeradwy Cyngor Sir Ddinbych ac mae wedi gweithio gydag ysgolion lleol, Canolfan Gymuned Llanfwrog, Clwb Tennis Llanfwrog, Capel Tabernacl a'r Eglwys Gatholig.
Hefyd mae ganddo brofiad o weithio ar adeiladau rhestreig megis Rose Cottage, Rhuthun, siôp wlân Wayfarer a Thy Gwyn, Llanfwrog.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 707025
Glasfryn, 123 stryd Mwrog, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1LE
Mae Gwasanaethau Rheoli ac Atal Plaon Swift yn cynnig gwasanaeth llawn i gartrefi preswyl drwy ogled ddwyrain Cymru, Rhuthun, Dinbych, Bae Colwyn, Glannau Dyfrdwy, Yr Wyddgrug, Llangollen, Corwen a'r ardal amgylchynol o fewn 30 milltir i Rhuthun. Darllen mwy ›
Gall technegydd cymwysedig ymdrin â phob math o blaon, yn cynnwys llygod a llygod mawr, wiwerod llwyd, cacwn, tyrchod daear, chwain, morgrug, pryfed, llau gwely a chwilod duon. Gall ein technegydd hyfforddedig ddarparu nifer o ddatrysiadau i gael gwared ar y broblem a hefyd sicrhau eu cadw draw o'ch cartref drwy gydol y flwyddyn.
Edrychwch ar ein gwefan am ragor o fanylion.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 705836
19 Llwyn Menlli, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1RG
Croeso i Gartref Preswyl Trosnant Darllen mwy ›
Croeso i Gartref Preswyl Trosnant, sy'n cynnig gofal i hyd at 12 o drigolion.
Manylion Cyswllt:
Heol y Parc
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1NB