Yr Awyr Agored
Mae ein cyfoeth o hanes wedi siapio pensaerniaeth y dref ac mae’n eich amgylchynu ar sgwâr y dref. Mae adeiladau 600 oed yn parhau i gael eu defnyddio heddiw fel banciau, siopau ac adeiladau dinesig. A oeddech chi’n sylweddoli fod copïau cyntaf anthem genedlaethol Cymru wedi eu hargraffu yn yr adeilad sy’n gartref i Siop Nain heddiw yn Stryd y Ffynnon?
Pysgota bras ym Mhlas Bathafarn Darllen mwy ›
Mae'r bysgodfa yn cynnwys dau bwll sy'n llawn cerpynnod, ysgretennod, merfogiaid, rhuddbysgod a gwarchod y baw. Fe'u lleolir mewn llecyn heddychlon gyda golygfeydd tuag at Fryniau Clwyd.
Mae modd prynu tocyn diwrnod trwy'r wefan ac o'r cyfeiriad uchod.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 702397
E-bost:
Gwefan: bathafarnhall.co.uk
Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2UU
Mae coedwigoedd mawreddog a dyffrynnoedd gwyrddlas nid nepell o Rhuthun. Mae’r tirwedd o gwmpas Rhuthun yn un o’r pethau sy’n gwneud y dref yn arbennig. Saif Rhuthun yng nghalon Bryniau Clwyd, sydd wedi ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Darllen mwy ›
Mae coedwigoedd mawreddog a dyffrynnoedd gwyrddlas nid nepell o Rhuthun. Mae’r tirwedd o gwmpas Rhuthun yn un o’r pethau sy’n gwneud y dref yn arbennig. Saif Rhuthun yng nghalon Bryniau Clwyd, sydd wedi ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Mae bod yn ardal o harddwch naturiol eithriadol yn golygu fod yr ardal wedi eu chydnabod fel un â thirwedd â nodweddion a harddwch mor arbennig fel ei bod o fudd i ni ei warchod a’i ddiogelu.
Mae tair ardal arall yng Nghymru wedi derbyn y dynodiad hwn, a chyfanswm o 46 drwy’r Deyrnas Unedig sy’n cwmpasu 18% o gefn gwlad Prydain, ac mae llawer ohonynt yn dirweddau gweithiol sy’n cael eu coleddu gan y rhai sy’n byw a gweithio ynddynt.
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw unig ardal o harddwch naturiol eithriadol gogledd Cymru ac mae’n adnabyddus am ei fryniau porffor wedi eu ffurfio gan y grug sy’n gorchuddio erwau o’r tir, ac mae’n un o’r tirweddau mwyaf amrywiol – mae’n cynnwys clogwyni dramatig, glaswelltiroedd ffrwythlon a choedwigoedd a fforestydd gwych o Ddyffryn Dyfrdwy i Ddyffryn Clwyd.
Wrth gerdded ar hyd Bryniau Clwyd fe welwch chi rostiroedd agored, caeau wedi eu hamgau gan wrychoedd, dyffrynnoedd coediog a darnau enfawr o galchfaen yn ymwthio i arwyneb y tir. Dyma wlad pant a bryn, afonydd wedi torri’n ddwfn i’r dyffrynnoedd lliwgar a llawer o olion dyn ar y tirwedd sydd wedi siapio’r nodweddion a welir heddiw.
Mae’r tirwedd yn ac o gwmpas Rhuthun yn un o’r rhai mwyaf cyfoethog a diddorol yng ngogledd Cymru. Mae coedwigoedd mawreddog a dyffrynnoedd gwyrddlas nid nepell o’r dref, yn ogystal â rhai o’r golygfeydd gorau yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Manylion Cyswllt:
Mae Rhuthun yn lle delfrydol i aros os ydych chi’n chwilio am daith feicio gan fod yr ardal yn cynnig rhywbeth i feicwyr o bob lefel gallu yn ac yng nghyffiniau’r dref. Mae ardal gogledd Cymru yn berffaith ar gyfer beicio gyda’i thirwedd amrywiol, milltir Darllen mwy ›
Mae Rhuthun yn lle delfrydol i aros os ydych chi’n chwilio am daith feicio gan fod yr ardal yn cynnig rhywbeth i feicwyr o bob lefel gallu yn ac yng nghyffiniau’r dref. Mae ardal gogledd Cymru yn berffaith ar gyfer beicio gyda’i thirwedd amrywiol, milltiroedd o lwybrau beicio a’r gwagle awyr agored.
Un o’r llwybrau beicio mwyaf adnabyddus – ond anoddaf – yng ngogledd Cymru yw’r llwybr beicio mynydd Dros y Top. Mae’n cychwyn o’r maes parcio gyferbyn â’r Ganolfan Grefft ac yn daith 22 milltir o hyd sy’n mynd drwy Barc Gwledig Moel Famau, rhannau o Goedwig Clwyd a rhannau o Fryniau Clwyd. Byddwch yn dringo i uchder o 450 metr a bydd yn cymryd oddeutu 3.5 awr.
Mae llwybrau Llyn Brenig yn eithaf heriol hefyd, gyda’r llwybr ‘At y Llyn’ yn enwedig o heriol. Ond os ydych chi’n ddigon dewr i roi cynnig arni mae’n werth yr ymdrech gan ei fod yn mynd â chi drwy Goedwig Clocaenog ac i fyny’n uchel o gwmpas Llyn Brenig.
I’r rhai ohonoch chi sy’n chwilio am rhywbeth ychydig mwy hamddenol, rhowch gynnig ar Lwybr y Glannau. Mae hwn yn mynd â chi o Rhuthun ac i’r Rhyl ac yn dilyn llwybr yr arfordir i Brestatyn ac yna i Rhuddlan cyn mynd yn ôl i’r Rhyl. Nid oes fawr ddim dringo ar y llwybr yma, ac mae oddeutu 14 milltir o hyd. Caniatewch tua 2.5 awr i gwblhau’r llwybr.
Os ydych chi’n dod ar wyliau gyda’ch teulu neu’n dod â’r plant i feicio yng ngogledd Cymru am y diwrnod, edrychwch ar yr hyn sydd gan Llwybr Beicio Mynydd Coed Llandegla i’w gynnig, gan ei fod wedi ei ddylunio’n arbennig ar gyfer teuluoedd. Bydd y llwybr tair milltir oddi ar y ffordd yn apelio at blant sy’n chwilio am antur tra’n ddigon diogel i chi beidio â phoeni am eu diogelwch. Does yna ddim bryniau serth a byddwch yn dilyn llwybr o gwmpas llyn a drwy’r goedwig.
Mae Bryniau Clwyd yn llawn o lwybrau beicio sy’n addas i ddechreuwyr hyd at y beicwyr mwyaf profiadol.
Ffordd wych o dreulio diwrnod yn beicio yw dilyn y llwybrau rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug dros y bryniau a gweld lle’r ewch chi. Mae’n ddull perffaith o dreulio diwrnod ar y beic yn mwynhau golygfeydd godidog a thrawiadol gogledd Cymru o’ch cwmpas chi.
Manylion Cyswllt:
Mae Rhuthun a gogledd Cymru yn lle gwych ar gyfer gwyliau sy’n croesawu cŵn. Mae’r ardal yn rhagorol ar gyfer mynd â chi am dro gan ei bod wrth droed Bryniau Clwyd â’r milltiroedd o gefn gwlad godidog, ac mae rhai o draethau gorau’r Deyrnas Unedig wrth ga Darllen mwy ›
Mae Rhuthun a gogledd Cymru yn lle gwych ar gyfer gwyliau sy’n croesawu cŵn. Mae’r ardal yn rhagorol ar gyfer mynd â chi am dro gan ei bod wrth droed Bryniau Clwyd â’r milltiroedd o gefn gwlad godidog, ac mae rhai o draethau gorau’r Deyrnas Unedig wrth garreg y drws.
Mae Bryniau Clwyd yn berffaith ar gyfer cerdded efo’ch chi, p’un ai am dro bach byr i deithiau llawer pellach i fyny’r bryniau, ac mae Parc Gwledig Loggerheads a Pharc Gwledig Moel Famau yn croesawu cŵn. A bydd Llwybr Clawdd Offa yn cynnig antur cerdded rhagorol i chi a’ch ci. Mae’r tirwedd yn y rhan hon o ogledd Cymru yn amrywio o laswelltiroedd agored llawn grug i goetiroedd trwchus lle cewch gerdded am filltiroedd.
Mae traethau bob amser yn wych i fynd â chi am dro ac mae gan ogledd Cymru rai o’r rhai gorau yn y wlad. Mae gan y Rhyl, Prestatyn a Bae Colwyn y traethau tywod gorau ar hyd arfordir gogledd Cymru, ac mae cannoedd o lwybrau arfordirol i chi eu defnyddio.
Hefyd mae llyn mawr yn y Bala lle cewch fynd â’ch ci am dro ac mae yna lwybrau rhagorol yn Eryri hefyd os nad oes ots gennych chi deithio ychydig ymhellach. Mae yna leoedd gwych i fynd â chi am dro yn Ynys Môn hefyd, gyda’i wagleoedd gwyrdd naturiol a thraethau hardd.
Edrychwch ar adran Lle i Aros y wefan hon am fanylion llety sy’n croesawu cŵn yn Rhuthun.
Manylion Cyswllt:
Mae gan Rhuthun a’r ardal amgylchynol lawer iawn i’w gynnig i bobl sy’n chwilio am weithgareddau twristiaeth mwy anturus. Mae beicio, motobeicio, marchogaeth, pysgota a cherdded ar gael yn Rhuthun a’r cyffiniau, a bydd y rhai sy’n chwilio am gyffro yn dod Darllen mwy ›
Pioneer Rafting
Waen Fawr, Rhuthun, LL15 2HW 01978 790485
Canolfan Antur Plas Power
Ffordd Plas Power, Wrecsam, LL11 5SZ 01978 754747
Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Nantyr
Llangollen, LL20 7DB 01691 712833
Proactive Adventure Ltd
Plas Ty’n Dŵr, Llangollen, LL20 8AR 01978 860088
One Planet Adventure
Coed Llandegla, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, LL11 3AA 01978 751656
Proadventure Activities Ltd
Stryd Parêd, Llangollen, LL20 8PW 01978 861912
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: ,
Darparydd cyrsiau hyfforddiant, gweithgareddau a sgiliau awyr agored ar gyrion Rhuthun. Arbenigwyr mewn chwilio am fwyd, byw yn y gwyllt, hyfforddiant cyfeiriannu a rheoli digwyddiadau yn yr awyr agored. Darllen mwy ›
Mae Original Outdoors yn fusnes hyfforddian, digwyddiadau a gweithgareddaut awyr agored sydd wedi hen ymsefydlu. Rydym yn gweithio yn y mynyddoedd a choedwigoedd gogledd Cymru ac Eryri, a hefyd yn gweithredu mewn lleoliadau ar draws y Deyrnas Unedig gyda'n tîm o hyfforddwyr awyr agored profiadol, brwdfrydig a phroffesiynol.
Mae ein hamrywiaeth o gyrsiau hyfforddi yn cwmpasu sgiliau awyr agored o gyfeirannu, chwilio am fwyd, byw yn y gwyllt, sgiliau goroesi a chyrsiau olrhain i deithiau tywys, digwyddiadau elusennol, adeiladu tîm a gwasanaethau proffesiynol yn yr awyr agored.
Mae'r cyrsiau a gweithgareddau rydym yn eu cynnig yng Ngogledd Cymru yn bennaf ond gallwn gynnig ein gwasanaethau ar gyfer digwyddiadau ar draws y Deyrnas Unedig i gyd - yn ogystal â chyrsiau pwrpasol ar gyfer grwpiau, unigolion neu sefydliadau.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 703121
E-bost:
Gwefan: originaloutdoors.co.uk
@@originaloutdoor
/originaloutdoors
Maes Gwyn
Rhewl
Ruthin
LL15 1UL