Llwybrau a Theithiau
Mae ein cyfoeth o hanes wedi siapio pensaerniaeth y dref ac mae’n eich amgylchynu ar sgwâr y dref. Mae adeiladau 600 oed yn parhau i gael eu defnyddio heddiw fel banciau, siopau ac adeiladau dinesig. A oeddech chi’n sylweddoli fod copïau cyntaf anthem genedlaethol Cymru wedi eu hargraffu yn yr adeilad sy’n gartref i Siop Nain heddiw yn Stryd y Ffynnon?
Llwybr Celf Rhuthun yw’r ffordd hwyliog o ddod i adnabod y dref. Fe’i lluniwyd ar y cyd â’r Ganolfan Grefft ac mae’n cynnig dull unigryw o ddysgu am y dref. Darllen mwy ›
Llwybr Celf Rhuthun yw’r ffordd hwyliog o ddod i adnabod y dref. Fe’i lluniwyd ar y cyd â’r Ganolfan Grefft ac mae’n cynnig dull unigryw o ddysgu am y dref.
Mae dylunwyr y llwybr, Fred Baier a Lucy Strachan, wedi llunio profiad rhyngweithiol ar gyfer ymwelwyr sy’n rhoi golwg ar y dref o sawl persbectif gwahanol.
Bwriad y Llwybr Celf yw bod ymwelwyr yn cael eu gwobrwyo drwy weld ffigurau metel acrobatig a gwerthfawrogi’r cyfeiriadau at chwedlau, atgofion a digwyddiadau hanesyddol yn y blychau twll sbecian.
Mae 10 blwch twll sbecian wedi eu gosod mewn waliau ac mae 22 o ffigurau i’w canfod yn y dref, wedi eu cuddio ymhlith y waliau a’r toeon yn y dref. Wrth chwilio am y rhain mae’n siwr y gwnewch sylwi, ac y gwnewch atgoffa’r bobl leol, pa mor hardd yw’r dref a sut mae’r bensaerniaeth o nifer o wahanol ganrifoedd yn bodoli ochr yn ochr mewn harmoni.
Cliciwch yma i fynd i wefan y Llwybr Celf, sy’n nodi’r holl wybodaeth angenrheidiol i chi gychwyn dilyn y llwybr, yn cynnwys map i’w lawrlwytho.
Manylion Cyswllt:
Gwefan: ruthinarttrail.co.uk
Yn ogystal â’r Llwybr Celf a Llwybr Bwyd Bryniau Clwyd mae nifer o deithiau o gwmpas y dref. Un sy’n boblogaidd ymhlith ymwelwyr yw’r daith dywysedig Brenhinoedd a Dihirod sy’n mynd o gwmpas y dref i weld a chlywed am y strydoedd a’r adeiladau cyfareddol. Darllen mwy ›
Yn ogystal â’r Llwybr Celf a Llwybr Bwyd Bryniau Clwyd mae nifer o deithiau o gwmpas y dref. Un sy’n boblogaidd ymhlith ymwelwyr yw’r daith dywysedig Brenhinoedd a Dihirod sy’n mynd o gwmpas y dref i weld a chlywed am y strydoedd a’r adeiladau cyfareddol.
Mae gan Rhuthun gysylltiadau â brenhinoedd a breninesau yn ogystal â lladron a chrwydriaid ac mae’r daith hon yn adrodd eu hanes i gyd. Mae yna straeon llawn sgandal, a digonedd o dywysogion a charcharorion.
Mae’r teithiau yn cychwyn o’r ganolfan grefft neu’r castell ar amser sy’n gyfleus i chi. Y costau yw £5 yr oedolyn (isafswm o bump mewn grŵp) a £2.50 i blant.
Mae teithiau tywysedig i ddau unigolyn yn costio £25.
Cewch ragor o wybodaeth yma
Mae’n bosibl mynd ar daith ar eich liwt eich hun gyda chymorth arweinlyfrau o’r llyfgell.
Manylion Cyswllt:
E-bost:
Gwefan: heritagetoursnorthwales.com
Mae Rhuthun yn adnabyddus am ei bwydydd a’i chynnyrch rhagorol. Yn ogystal â nifer o fwytai a chaffis gwych, mae yma amrywiaeth ddiddorol o siopau yn gwerthu ystod o fwydydd blasus, wedi eu tyfu a’u cynhyrchu yn yr ardal leol yn bennaf. Darllen mwy ›
Mae Rhuthun yn adnabyddus am ei bwydydd a’i chynnyrch rhagorol. Yn ogystal â nifer o fwytai a chaffis gwych, mae yma amrywiaeth ddiddorol o siopau yn gwerthu ystod o fwydydd blasus, wedi eu tyfu a’u cynhyrchu yn yr ardal leol yn bennaf.
Mae Llwybr Bwyd Bryniau Clwyd yn ffordd newydd gyffrous o ganfod pleserau blasus Rhuthun a’r ardal amgylchynol, a phrydferthwch Bryniau Clwyd, sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Bydd y llwybr yn mynd â chi drwy rai o’r golygfeydd mwyaf godidog ym Mryniau Clwyd, o Loggerheads drwy dref farchnad ddeniadol Dinbych a thu hwnt.
Ac ar y ffordd cewch fynd i weld cynhyrchwyr bwydydd blasus sydd wedi ennill gwobrau am eu cynnyrch, yn cynnwys bara wedi ei wneud â llaw, pasteion, cigoedd o fridiau Cymreig traddodiadol, caws, iogwrt a seidr.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi ar y llwybr wrth i chi flasu a mwynhau peth o’r bwyd a’r diod gorau i’w gael yn yr ardal, a mwynhau ein tirwedd trawiadol.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn:
Clwyddian Range