Atyniadau
Mae ein cyfoeth o hanes wedi siapio pensaerniaeth y dref ac mae’n eich amgylchynu ar sgwâr y dref. Mae adeiladau 600 oed yn parhau i gael eu defnyddio heddiw fel banciau, siopau ac adeiladau dinesig. A oeddech chi’n sylweddoli fod copïau cyntaf anthem genedlaethol Cymru wedi eu hargraffu yn yr adeilad sy’n gartref i Siop Nain heddiw yn Stryd y Ffynnon?
Beth am ddod i roi cynnig ar y gamp newydd o FootGolf y gem sy'n tyfu gyflymaf yn y wlad. Darllen mwy ›
Canolfan FootGolf Dyffryn Clwyd yn gwrs sy'n gyfeillgar i deuluoedd wedi eu lleoli yn Rhuthun, Gogledd Cymru, mae’n cwrs sy'n gallu herio unrhyw FootGolfer . Mae'r ganolfan yn cael ei rhedeg ar sail talu a chwarae ac mae wedi ei gynllunio'n arbennig ar gyfer footGolf yn unig .
Gallwch archebu amser tî drwy roi alwad i ni , neu yn syml droi i fyny a byddwn yn eich ffitio i mewn .
FootGolf yn chwaraeon sydd yn cael eu fwynhau gan bob gallu a lefel.
Gallwn ddarparu ar gyfer partïon , grwpiau. Rhowch alwad ar 01824 702885.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 702885
E-bost:
Gwefan: thecentreruthin.colourscope-wales.co.uk
/Dyffrynclwydfootgolf
Y Ganolfan
Stryd Mwrog
Rhuthun
Sir Dinbych
LL15 1LE
Mae gwesty bydenwog Castell Rhuthun wedi’i leoli yng nghanol y dref. Mae’r porth mynediad a’r dreif yn cuddio ysblander yr adeilad godidog hwn. Darllen mwy ›
Mae gwesty bydenwog Castell Rhuthun wedi’i leoli yng nghanol y dref. Mae’r porth mynediad a’r dreif yn cuddio ysblander yr adeilad godidog hwn.
Mae Castell Rhuthun wedi ei adeiladu ar gefnen tywodfaen coch 100 troedfedd uwchben dyffryn Clwyd, yn edrych dros groesfan strategol yr afon. O edrych ar y ffos i orllewin y beili uchaf, mae’n bosibl fod y castell cynharaf yma yn un mwnt a beili. Fodd bynnag, cyflwynwyd y castell cyntaf a nodwyd mewn dogfennau i’r Tywysog Dafydd ap Gruffydd gan y Brenin Edward yn 1277. Fe’i adwaenid fel y Castell Coch yn y Gwernfor – a gellir gweld cochni’r waliau tywodfaen hyd heddiw.
Roedd castell 1277 yn cynnwys beili uchaf siâp pentagon â rhagfuriau wedi eu hadeiladu i fyny craig wyneb y gefnen a oedd yn ei wneud yn debyg i gestyll Holt a’r Dre-wen. Roedd y beili oddeutu 350 troedfedd o hyd a 250 troedfedd o led ac roedd lefel llawr yr adeiladau yn llawer uwch na’r tir y tu allan i’r waliau. Roedd hyn yn arbennig o wir ar yr ochr ogledd orllewinol lle’r oedd y tir yn goleddu tua’r afon. Amddiffynwyd ochr arall y castell gan ffos sych llydan a dwfn.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: +44 (0) 1824 702664
E-bost:
Gwefan: ruthincastle.com
@ruthincastle
/pages/Ruthin-Castle-Hotel-And-Spa/141906705947202?fref=ts
Castell Rhuthun
Stryd y Castell
Rhuthun
LL15 1DP
Wrth grwydro o gwmpas Rhuthun fedrwch chi ddim methu Nantclwyd y Dre. Hwn yw tŷ ffram pren hynaf gogledd Cymru sy’n dyddio’n ôl i tua 1425, ac mae’r dyluniad du a gwyn a’r stiltiau trawiadol ar flaen yr adeilad yn ei wneud yn dirnod amlwg yn y dref. Darllen mwy ›
Wrth grwydro o gwmpas Rhuthun fedrwch chi ddim methu Nantclwyd y Dre. Hwn yw tŷ ffram pren hynaf gogledd Cymru sy’n dyddio’n ôl i tua 1425, ac mae’r dyluniad du a gwyn a’r stiltiau trawiadol ar flaen yr adeilad yn ei wneud yn dirnod amlwg yn y dref.
Mae wedi ei ddefnyddio at sawl diben dros y blynyddoedd gan wahanol berchnogion. Ymddengys mai gwehyddion oedd y rhai cynharaf ac yn ystod oes Fictoria cafodd ei ddefnyddio fel ysgol i ferched.
Yn ystod y cyfnod modern bu’n amgueddfa ar agor i’r cyhoedd yn dangos llawer o’r nodweddion gwreiddiol a gadwyd, ac mae’n bosibl llogi’r adeilad ar gyfer achlysur arbennig neu gyfarfod busnes.
Gwelodd gogledd Cymru a Rhuthun lawer o frwydrau gwaedlyd ganrifoedd yn ôl a chafodd Nantclwyd y Dre ei ddinistrio gan Owain Glyndwr yn 1435 cyn ei ailadeiladu ag arian gan y Saeson. Mae yno hyd yn oed gamera rhagweithiol ar gyfer gwylio ystlumod yn yr atig lle gellir gwylio trigolion diweddaraf y tŷ.
Mae’r adeilad yn un o adeiladau rhestredig Gradd I gorau gogledd Cymru ynghyd â’r gerddi a adnewyddwyd yn ddiweddar yn y cefn, sy’n cael eu galw’n Ardd yr Arglwydd, sydd ei restru fel Gradd II. Datgelwyd tystiolaeth y bu pwll nofio yno ar ryw adeg yn ogystal â safle canonau yn ystod y rhyfel cartref.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn hanes gogledd Cymru, hen adeiladau, pensaerniaeth a gerddi, ewch am dro i Nantclwyd y Dre. Mae’n rhoi cipolwg cyffrous ar Rhuthun a’r gorffennol.
Mae Nantclwyd y Dre ar agor:
Ebrill 2017
Dydd Gwener, Dydd Sadwrn a Dydd Sul, 10.30am - 5pm
Mai a Medi 2017
Dydd Sadwrn, 11am - 5pm, Dydd Sul a Dydd Llun, 11am - 3pm
Mehefin / Gorffennaf / Awst 2017
Dydd Llun a Dydd Mercher, 11am - 4pm, Dydd Mawrth a Dydd Sul, 11am - 3pm, Dydd Sadwrn, 11am - 5pm.
Mynediad olaf awr cyn cau.
Prisiau mynediad Nantclwyd y Dre –
Oedolyn £5
Pris gostyngol £4
Plant £4
Teulu £14.
Mynediad am ddim i blant dan 5 oed.
Gellir trefnu ymweliadau yn y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Mawrth drwy ffonio 01824 708232.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: +44 (0) 1824 702664
E-bost:
@YNantclwydYDre
Nantclwyd y Dre
Stryd y Castell
Rhuthun
LL15 1DP
Mae gan Rhuthun ei Chanolfan Grefft ei hun sy’n adnabyddus am ei horielau celf rhyngwladol a’i phensaerniaeth wych hefyd. Mae’r brif oriel yn arddangos y celf cymhwysol cyfoes gorau gan artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hefyd yn cynnwys caffi. Darllen mwy ›
Mae gan Rhuthun ei Chanolfan Grefft ei hun sy’n adnabyddus am ei horielau celf rhyngwladol a’i phensaerniaeth wych hefyd. Mae’r brif oriel yn arddangos y celf cymhwysol cyfoes gorau gan artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hefyd yn cynnwys caffi ac oriel gwerthu nwyddau.
Hefyd mae croeso i chi ymweld â’r chwe stiwdio gan grefftwyr lleol, a chael cyfle i’w gwylio wrth eu gwaith.
Gwariwyd £3.4 miliwn yn dymchwel y ganolfan wreiddiol yn 2008, ac yn creu’r un newydd a welwn heddiw. Yn ogystal â’r stiwdios crefft mae’r datblygiad newydd yn cynnwys ystafell addysg, orielau mwy a bwyty.
Bwriadwyd i’r adeilad newydd, a ddyluniwyd gan y penseiri Sergison Bates, adlewyrchu’r tirlun o’i gwmpas ac enillodd wobr Dewi-Prys Thomas yn 2009, a’i roi ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Cronfa Gelf a’i ddyfarnu’n ‘Ddyluniad Difyr’ gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
• Ar agor dydd Mawrth – dydd Sul
• 10.00am - 5.30pm
• Mynediad am ddim
• Maes parcio am ddim
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: +44 (0)1824 704774
E-bost:
Gwefan: canolfangrefftrhuthun.org.uk
Canolfan Grefft Rhuthun
Heol y Parc
Rhuthun
LL15 1BB
Carchar Rhuthun yw un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yn Rhuthun, yr unig garchar dyluniad Pentonville sydd ar agor i’r cyhoedd fel atyniad treftadaeth. Darllen mwy ›
Carchar Rhuthun yw un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yn Rhuthun, yr unig garchar dyluniad Pentonville sydd ar agor i’r cyhoedd fel atyniad treftadaeth.
Caiff pobl dreulio amser yn edrych ymhob twll a chornel a dysgu am fywyd pobl yn y system garchardai yn oes Fictoria. Cyfle i weld gweithgareddau o ddydd i ddydd y carcharorion: beth roedden nhw’n ei fwyta, eu gwaith, a sut roedden nhw’n cael eu cosbi. Ewch i’r celloedd, yn cynnwys y gell gosb, y gell dywyll a’r gell grog. Cewch ddysgu am Houdini Cymru a William Hughes, y dyn olaf i’w grogi yma. Mae cyfle i gael ymdeimlad o fywyd y swyddogion yn y carchar hefyd.
Mae’n bosibl llogi’r adeilad ar gyfer priodasau, partïon a digwyddiadau.
Gwybodaeth i ymwelwyr:
Mae Carchar Rhuthun ar agor o 1 Ebrill 2017 tan 30 Medi 2017, o ddydd Mercher i ddydd Llun (ar gau ar ddydd Mawrth), 10am - 5pm (Mynediad olaf 4pm)
Prisiau mynediad Carchar Rhuthun –
Oedolyn £5
Pris gostyngol £4
Plant £4
Teulu £14.
Mynediad am ddim i blant dan 5 oed.
Gellir trefnu ymweliadau yn y cyfnod rhwng mis Hydref a mis Mawrth drwy ffonio 01824 708218.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: +44 (0)1824 708281
E-bost:
@RuthinGaol
/RuthinGaol
Carchar Rhuthun
46 Stryd Clwyd
Rhuthun
Sir Ddinbych
Os ydych chi awydd penwythnos gwahanol, gallai gwledd ganoloesol yn un o gestyll godidocaf gogledd Cymru fod yr union beth.
Darllen mwy ›
Os ydych chi awydd penwythnos gwahanol, gallai gwledd ganoloesol yn un o gestyll godidocaf gogledd Cymru fod yr union beth.
Mae Castell Rhuthun yn lleoliad gwych i fwynhau bwyd, diod a cherddoriaeth yr oesoedd canol a chamu’n ôl i’r cyfnod hwnnw. Mae’r castell wedi bodoli ers y drydedd ganrif ar ddeg ac wedi gweld llawer o weithgarwch yn ystod ei oes. Teulu de Grey oedd perchnogion y castell yn ystod y Rhyfel Cartref ac fe’i ddifethwyd gan fyddin Cromwell. Mae’r hyn sy’n weddill o’r castell gwreiddiol bellach yn rhan o’r gwesty. Dywedir bod Iarll Warig – un o feibion Harri’r Wythfed – yn cynnal gwleddoedd ysblennydd yn parhau am ddiwrnodau pan fyddai’n ymweld â chastell Rhuthun. Mae gwleddoedd canoloesol y gwesty wedi eu seilio ar y rhain. Byddwch yn cael y bara a’r halen traddodiadol wrth gyrraedd cyn symud ymlaen i’r brif wledd yn y neuadd ganoloesol. Bydd merched y llys a’r digrifwas yn darparu adloniant i chi a’ch cyd-wleddwyr tra byddwch chi’n bwyta fel y byddech wedi gwneud yng nghyfnod Iarll Warwig. Mae’r fwydlen yn cynnwys cawl llysiau gyda bara, coes oen ac adennydd cyw iâr mewn saws mêl ac oren, y mae’n rhaid eu bwyta â dagr a’ch bysedd. Ni chaniateir ffyrc na llwyau!! Cynhwysir medd ar gyfer llwncdestun a gwin gyda phob cwrs, gan y byddai’r rhain wedi cael eu hyfed yn y canol oesoedd yng ngogledd Cymru. Bydd y wledd gyfan yn cymryd rhwng tair a phedair awr.
Er mwyn gwneud y mwyaf o’r penwythnos beth am wisgo mewn dillad canoloesol? Bydd cyfran uchel o’r gwesteion yn y wledd yn dod mewn dillad canoloesol traddodiadol, y gellir eu llogi yn Rhuthun. Nid yw’n orfodol, ond bydd yn ychwanegu at y profiad yn ei gyfanrwydd.
Mae gwely a brecwast y bore wedyn yn rhan o’r pecyn felly bydd cyfle i chi weld gweddill Rhuthun a’i ogoniannau cyn mynd adre, a fydd yn golygu penwythnos perffaith.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: +44 (0) 1824 702664
E-bost:
Gwefan: ruthincastle.com
@ruthincastle
/ruthincastle
Gwesty Castell Rhuthun
Stryd y Castell
Rhuthun
LL15 2NU
Mae Sgwâr Sant Pedr yn dirnod yn y dref. Mae holl ffyrdd y dref yn arwain at Sgwâr Sant Pedr, ac yn wir, ymddengys y gellir cyrraedd yr holl fannau pwysig yn nhref Rhuthun o Sgwâr Sant Pedr. Darllen mwy ›
Mae Sgwâr Sant Pedr yn dirnod yn y dref. Mae holl ffyrdd y dref yn arwain at Sgwâr Sant Pedr, ac yn wir, ymddengys y gellir cyrraedd yr holl fannau pwysig yn nhref Rhuthun o Sgwâr Sant Pedr, yn cynnwys Eglwys Sant Pedr, Castell Rhuthun a Charchar Rhuthun. Dywedir mai carreg hynafol yn y sgwâr oedd y fan lle gwnaeth y Brenin Arthur dorri pen Huail ymaith, ei elyn mewn rhyfel ac wrth chwilio am gariad. Digwyddodd y crogi olaf ar grocbren yr hen lys yn y sgwâr ar 12 Awst 1679.
Mae’r eglwys ei hun yn deillio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg / dechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg gyda chorff dwbl a thoeon nenbrennau crymion. Cafwyd addasiadau yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac ychwanegwyd tŵr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r eglwys ar un ochr i hen sgwâr y farchnad yn Rhuthun, y tu ôl i giatiau haearn bwrw wedi eu heuro. Gwnaed y giatiau yn 1727 gan y brodyr Robert a John Davies o'r Bers, a fu’n gyfrifol am adeiladu’r prif giatiau yng Nghastell y Waun hefyd.
Ychwanegwyd y nodwedd mwyaf hynod, y to pren, yn yr unfed ganrif ar bythmeg. Yn ôl y traddodiad gwerin daeth y to o Abaty Dinas Basing pan gafodd yr abaty ei ddiddymu gan Harri VIII, ond nid oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi hyn. Mae’r to wedi ei addurno â symbolau herodrol, blodau a phennau wedi eu cerfio, ac mae’r effaith yn ei gyfanrwydd yn creu argraff. Os oedd y to yn abaty Dinas Basing yn wreiddiol yn sicr roedd y mynachod yno yn byw mewn steil!
Ger yr organ mae cist dderw o’r ail ganrif ar bymtheg a ddefnyddir gan warden yr eglwys. Y tu ôl i’r organ mae pisgina o’r bedwaredd ganrif ar ddeg wedi ei gosod yn y wal. Mae nifer o gofebau diddorol ar y waliau, ond un o’r rhai mwyaf trawiadol yw un Gabriel Goodman, Deon Abaty San Steffan (1561-1601).
Goodman wnaeth ailsefydlu’r coleg, yn ogystal â sefydlu Ruthin School. Mae ei gerflun yn eistedd mewn agoriad bwaol syml. Cofeb ddiddorol arall yw’r plac coffa i John (m. 1655) a Martha Wynne, a wnaeth fyw am 39 mlynedd ar ôl ei farwolaeth!
Mae yma ddwy gofeb efydd o’r unfed ganrif ar bymtheg hefyd. Mae’r rhain oll yn ddiddorol iawn, ond y gwir drysor yma yw’r to cain.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn:
Mae Gerddi Adar Pen y Ffrith yn gartref i gasgliad rhagorol o adar y dŵr. Darllen mwy ›
Ewch am dro o gwmpas gerddi'r ty, gyda'r dyluniad dan ddylanwad y Siapaneaid, mwynhewch gerdded drwy'r goedwig i weld y rhedyn a'r ardd gorsiog a'r rhaeadr sy'n syrthio i lawr yr hollt yn y graig. Saif Pen y Ffrith mewn 45 erw o harddwch naturiol eithriadol ac mae'n lle delfrydol ar gyfer gwylwyr adar a ffotograffwyr.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 780501
Pen y Ffrith, Ffordd Llandegla, Llanarmon yn Iâl, Sir Ddinbych, CH7 4QX