Achlysuron arbennig
Mae ein cyfoeth o hanes wedi siapio pensaerniaeth y dref ac mae’n eich amgylchynu ar sgwâr y dref. Mae adeiladau 600 oed yn parhau i gael eu defnyddio heddiw fel banciau, siopau ac adeiladau dinesig. A oeddech chi’n sylweddoli fod copïau cyntaf anthem genedlaethol Cymru wedi eu hargraffu yn yr adeilad sy’n gartref i Siop Nain heddiw yn Stryd y Ffynnon?
Mae pob pâr yn haeddu byw'n hapus byth wedyn ac mae lleoliad rhamantus Castell Rhuthun yn cynnig lleoliad bythgofiadwy yn un o'r lleoliadau mwyaf rhamantus yng ngogledd Cymru. Darllen mwy ›
P'un ydych chi'n breuddwydio am ddiwrnod swmpus, criw dethol neu gasglu llu o deulu a ffrindiau ynghyd, bydd eich priodas yng Nghastell Rhuthun yn fythgofiadwy ac wedi ei theilwra ar eich cyfer chi.
Mae gennym ni ystafelloedd sy'n gweddu i briodasau o bob maint, a chewch ddewis cael eich priodas mewn pabell. Beth bynnag eich breuddwyd, fe'i gwireddir. Beth bynnag eich cynlluniau, mae castell hanesyddol a rhamantus Rhuthun yn aros amdanoch chi.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 702664
E-bost:
Gwefan: ruthincastle.co.uk
@Ruthincastle
/ruthincastlehotelandspa
Castell Rhuthun
Stryd y Castell
Rhuthun
LL15 2NU