Hunan arlwyo
Mae Rhuthun yn meddu ar gymysgedd rhyfeddol o leoedd i chi aros a mwynhau ein lletygarwch enwog. P’un ai ydych chi’n chwilio am foethusrwydd hanesyddol mewn castell o’r drydedd ganrif ar ddeg sy’n cynnwys bwytai, bariau a sba, neu westy gwely a brecwast unigryw neu wersylloedd sy’n croesawu teuluoedd a chŵn, fe ddewch chi i’r casgliad fod rhywbeth at ddant pawb yn Rhuthun.
Mae'r Ysgubor Hir yng Nghaerfallen yn gartref gwyliau hunan arlwyo moethus, mewn adeilad rhestredig Gradd II ar fferm hanesyddol yn Nyffryn Clwyd, Gogledd Cymru – milltir yn unig o dref ganoloesol Rhuthun. Darllen mwy ›
Mae'r Ysgubor Hir yn barod i groesawu gwestion yn awr - gyda lle i hyd at 6 o bob mewn tair ystafell wely gyda thair ystafell ymolchi/cawod. Fe'i cynigir ar gyfer egwyl byr (isafswm o ddwy noson) neu wyliau hirach, trwy gydol y flwyddyn.
Mae'r Ysgubor Hir yn lle rhagorol i ymlacio ac adfywio. Mae'r ystafelloedd yn fawr ac wedi'u dodrefnu i safon uchel, gan ddefnyddio cyfuniad o hen bethau Cymreig, eitemau derw unigryw, gwelyau a chadeiriau moethus a ffabrigau a dodrefn wedi'u dylunio'n lleol. Mae'r eiddo'n chwathus iawn ac yn llawn o nodweddion diddorol.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 07891366581
E-bost:
Gwefan: caerfallen.com
Caerfallen
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1SN
Porth y Dŵr - y Tŷ Cuddiedig! Un o'r tai hynaf yn Rhuthun, cyferbyn â'r Garchar Rhuthun Darllen mwy ›
Mae’n bosibl na fyddech chi’n dyfalu bod unrhyw beth anarferol ynghylch Porth y Dŵr o’r tu allan, ond agorwch y drws a dod o hyd i gyfrinachau’r Tŷ Cuddiedig wedi’u cuddio y tu mewn! Mae’r adeilad ffrâm bren yma’n dyddio o 1456 wedi cadw llawer o’i nodweddion gwreddiol, ac wedi cael ei adfer mewn modd hynod ofalus a sensitif i ddarparu bwthyn hunanarlwyo unigryw nad oes mo’i debyg. Cewch fwynhau haul y bore yn y siambr wely Tuduraidd gyda’i phaneli pren, ymlacio o flaen tân agored yn y lolfa gysurus, chwarae gemau traddodiadol neu bori trwy’r llyfrau yn y glydfan. Mae dwy ystafell wely ym Mhorth y Dŵr (ystafell â gwely dwbl ac ystafell â dau wely sengl, ac mae gwely sengl ychwanegol/cot babi ar gael), ynghyd ag ystafell ymolchi, lolfa/ystafell fwyta cynllun agored, cegin a chwrtiard bychan heulog. Dewch i ddianc rhag technoleg am ychydig o ddyddiau – arhoswch yn y Tŷ Cuddiedig a gadael y byd modern ar ôl!
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 07801 252632
E-bost:
Gwefan: porthydwr.com
/PorthyDwr
65 Stryd Clwyd
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1HN
Llety Maes Ffynnon Darllen mwy ›
Fflat llawr gwaelod wrth ochr llyn sy'n edrych ar y parc a'r llyn. Mae'r ystafell wely ddwbl yn cynnwys drysau patio sy'n arwain at y balconi. Mae'r ail ystafell wely yn cynnwys gwely bync maint llawn a gwely sengl. Mae'r gegin yn llawn offer. Mae toiled a chawod oddi ar y cyntedd ac ystafell ymolchi yn yr ystafelly wely gwelyau bync. Mae'r lolfa yn cynnwys pared i'w gwahanu o'r ystafell wely ddwbl, teledu Sky, rhyngrwyd di-wifr a gwres canolog. Mae'r dillad gwely a llieniau wedi eu cynnwys yn y pris. Lle i 4/5. Mae'n ddrwg gennym ond nid ydym yn caniatáu i anifeiliaid anwes aros yma.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 705225
25 Maes Ffynnon, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15
Mae bwthyn "The Old Printers" yn guddfan gyfleus ynghanol Rhuthun, dim ond 50 metr o ganol y dref, sy'n ei gwneud yn hawdd cerdded i amrediad fwytai a thafarndai lleol. Darllen mwy ›
Mae'r bwthyn yn cynnwys dwy ystafell wely gyda gwelyau ar gyfer 5 o unigolion. Mae soffas i lawr grisiau yn cynnig lle cysgu ychwanegol i bartïon mwy o faint.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 077821 075010
E-bost:
Gwefan: ruthinretreat.co.uk
6 Stryd y Ffynnon
Rhuthun
LL15 1AH
Mae lle i ddau yn y bwthyn sydd ar gael i'w rentu ar sail hunan arlwyo, yn nhiroedd yr Hen Reithordy yng Nghlocaenog, sydd bedair milltir oddi wrth tref farchnad hanesyddol Rhuthun yn Sir Ddinbych. Darllen mwy ›
Mae'r bwthyn yn berffaith i'r rhai sy'n chwilio am ysbaid tawel mewn lleoliad gwledig heddychlon, sy'n agos at atyniadau'r ardal amgylchynol. Rydym ni ar gyrion Coedwig Clocaenog yn ardal Hiraethog ac yn agos at Lyn Brenig a Llyn Alwen.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 750740
E-bost:
Gwefan: cedartreecottage.co.uk
Yr Hen Reithordy
Clocaenog
Rhuthun
LL15 2AT
Wedi ei osod mewn perllan, hen adeiladau fferm oedd y bwthyn hwn yn wreiddiol, mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Cafodd y bwthyn ei adfer a'i ddatblygu gan Angela a Philip Dykins dros nifer o flynyddoedd i safon 5 seren ac er mwyn rhoi blas ar yr ardal rydym ni'n darparu wyau pen dalar a detholiad bach o jam lleol. Mae'r lleoliad yn Nyffryn Clwyd yn ddelfrydol ar gyfer yr arfordir, llynnoedd, dinasoedd a chefn gwlad. Mae'n hawdd cyrraedd golygfeydd unigryw gogledd Cymru, trenau stêm, cestyll a'r llu o atyniadau hanesyddol eraill sy'n addas i bob oedran o Rhuthun, a bydd hyn yn gwneud eich gwyliau yn ddiddorol a chofiadwy. Ar ôl dychwelyd i'r bwthyn cewch ymlacio yn y berllan, cael barbeciw neu ddiodyd ar y decin, gyda chefn gwlad hardd o'ch cwmpas. Ar y llaw arall mae nifer o fwytai lleol a thafarndai gwledig fel diweddglo i'ch diwrnod.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 44 (0)1824 704 953
October Farm, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2US
Gwyliau Fferm Hengoed Darllen mwy ›
Bwthyn gwyliau traddodiadol ddwy filltir o Rhuthun yn Nyffryn Clwyd ar gael i'w logi ar gyfer gwyliau.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 703849
Hengoed, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2DD
Llety hunan arlwyo Yr Hen Swyddfa Bost Darllen mwy ›
Lleoliad delfrydol i'r rhai sydd am ganfod Bryniau Clwyd a thref ganoloesol Rhuthun. Nid nepell o ddinas hanesyddol Caer. Lleoliad canolog ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri ac arfordir hardd gogledd Cymru. P'un ai ydych chi am fynd am dro hamddenol, beicio mynydd neu rafftio dwr gwyn, mae gogledd Cymru yn cynnig rhywbeth at ddant pawb! Mae'r Hen Swyddfa Bost, ddwy filltir o Rhuthun, yn cynnig llety hunan ddarpar â lle i 4 o bobl.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824704690
Yr Hen Swyddfa Bost, Pwllglas, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2PB
Tyddyn isaf Darllen mwy ›
Llety hunan ddarpar cyfforddus mewn rhan o ffermdy ond sy'n hunangynhwysol. Lle i 6 + cot. Mae gennym hen granar gyda lle i 2-3 a charafan sefydlog tair ystafell wely sy'n cynnig lle i 6 gysgu. Croeso i blant. Ar agor drwy gydol y flwyddyn. Tair milltir o dref farchnad Rhuthun.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 703367
Tyddyn Isaf, Rhewl, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1UK
Bwthyn Stryd y Castell yw llety gwyliau agosaf at y Castell a chanol tref Rhuthun, felly mae'n ddelfrydol ar gyfer gwesteion priodas, egwyl byr neu hir. Mae'n berffaith ar gyfer cyplau, anturiaethwyr sengl, cerddwyr, beicwyr a theuluoedd â phlant dros 12. Darllen mwy ›
Adeiladwyd y bwthyn tua 1680 o adfeilion Castell Rhuthun. Gwneuthuriad traddodiadol cerrig a derw, wedi'i uwchraddio ar gyfer arhosiad cyffyrddus dros ben.
- Lleoliad distaw, preiat ar Stryd y Castell
- Hawlbe parcio am ddim
- Pecyn croeso am ddim
- Cegin gyda'r holl adnoddau, os ydych chi'n dymuno coginio!
- Cwrt allanol preifat
- Ni chaniateir ysmygu yn y bwthyn na'r tu allan, ac ni chaniateir anifeiliaid anwes ... felly dim arogleuon drwg
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 07707255209
E-bost:
Gwefan: booking.com/hotel/gb/castle-street-cottage.en-gb.html
Stryd y Castell
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1DP
Hafannedd: bwthyn a fflat hunanarlwyo
Hen felin wlân o'r ail ganrif ar bymtheg yw Hafannedd, ar lannau'r Afon Clwyd, ar gyrion Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a dim ond 5 milltir o Rhuthun. Darllen mwy ›
Mae dwy uned ar osod, yn cysgu hyd at bump o bobl yr un. Mae'r gerddi hardd ac eang yn cynnwys padog, barbeciw, ardal eistedd a digonedd o le parcio. Mae ystafell bwrpasol ar gael i westeion olygu a sychu dillad. Mae gwres canolog a thân llosgi pren yn y ddwy uned. Mae'r pris yn cynnwys bwydydd sylfaenol, dillad gwely a llieniau, tanwydd, Wifi am ddim ac ati. Rhaid aros am isafswm o ddwy noson, ac eithrio yn ystod gwyliau'r ysgol pan fo'r isafswm yn wythnos. Edrychwch ar ein gwefan am ragor o wybodaeth ac i weld ein hadolygiadau rhagorol ar Tripadvisor ac Airbnb.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 01824 750678
E-bost:
Gwefan: hafannedd.com
/Hafannedd-Holidays-in-North-Wales-204113592958994
Hafannedd
Bryn Saith Marchog
Corwen LL21 9SB
Mae'r Llety yn Faraway yn unigryw ac yn unigol o ran eu cymeriad a'u steil. Gan gynnig llety cyfforddus ond soffistigedig, daw'r ddau gyda thybiau poeth i aros yn wirioneddol ymlaciol. Darllen mwy ›
Owl Lodge (Cysgu 4)
Mae gan Owl Lodge ystafell wely ddwbl gyda matres cyfforddus John Lewis ac ystafell eistedd gyda gwely soffa Ikea sy'n troi'n wely maint brenin. Rydym yn darparu dillad gwely ar gyfer y ddau wely. Mae gan y gegin oergell, hob maint llawn, tegell, tostiwr a microdon / popty / gril combi. Mae yna hefyd farbeciw Webber Kettle y tu allan y gallwch ei ddefnyddio.
Y Ty Cŵn (Cysgu 2)
Mae gan Dŷ'r Cŵn ystafell wely ddwbl gyda matres Ikea cadernid canolig. Darperir lliain cotwm o'r Aifft ynghyd â dwy liain ar gyfer pob gwestai. Mae gan y gegin hob nwy, tegell, tostiwr, microdon a ffwrn fach.
Mae gan y ddau eiddo dân llosgi coed ar gyfer gwresogi, ac rydym yn darparu digon o foncyffion i'w cadw'n llosgi drwy gydol eich arhosiad. Rydym yn darparu digon o goffi, te, siwgr a llaeth i'ch helpu i fynd. Mae dŵr poeth cyson yn yr ystafelloedd cawod fel y gallwch chi gael cawod unrhyw adeg o'r dydd ac rydym yn darparu tywel llaw a thywel bath i bob person ynghyd â sebon wedi'i wneud â llaw i chi fynd ag ef adref gyda chi. Mae gan y ddau dwbiau poeth i socian ar ôl cerdded am ddiwrnod hir neu berffaith ar gyfer noson o syllu ar y sêr.
Manylion Cyswllt:
Rhif ffôn: 07973641011
E-bost:
Gwefan: farawayfollies.wales
/FarawayFollies
Faraway
Llandegla
LL11 3BG