Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcîs sy'n storio gwybodaeth amhersonol i'n cynorthwyo i wella ein gwefan.

Gwersylla a charafanau

Mae Rhuthun yn meddu ar gymysgedd rhyfeddol o leoedd i chi aros a mwynhau ein lletygarwch enwog. P’un ai ydych chi’n chwilio am foethusrwydd hanesyddol mewn castell o’r drydedd ganrif ar ddeg sy’n cynnwys bwytai, bariau a sba, neu westy gwely a brecwast unigryw neu wersylloedd sy’n croesawu teuluoedd a chŵn, fe ddewch chi i’r casgliad fod rhywbeth at ddant pawb yn Rhuthun.

Gwersyll Carafanau Teithiol Plas Bathafarn Darllen mwy ›

 

Mae Parc Carafanau Plas Bathafarn yng nghanol cefn gwlad naturiol wrth droed Bryniau Clwyd, dim ond milltir o dref farchnad ganoloesol brysur Rhuthun. Mae'r safle hwn sydd wedi`i gofretru gyga`r Clwb Carafan yn darparu golygfeydd trawiadol o Fryniau Clwyd a Dyffryn Clwyd sy`n cynnwys lawnt un erw wasted gyda phwyntiau trydan ynghyd a man gweredu cemegau.

Mae`r busnes teuluol hwn yn lleoliad arbennig i wneud ffrindiau ,cael barbiciw,darllen llyfr,neu ymlacio gyda gwydriad o win gan wylio`r haul yn machlud ar y gorwel.Mae`r ardal gyfagos yn cynnig amrywiath eang o lwbrau cerdded, gyda Chlawdd Offa yn rhedeg ar yd Bryniau Clwyd. Mae Rhuthun a`r cylch hefyn yn boblogaidd iawn gyda beicwyr.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 702397
E-bost:
Gwefan: bathafarnhall.co.uk


Llanbedr Dyffryn Clwyd, Ruthin, Clwyd LL15 2UU

Gwersyllfa Minffordd Darllen mwy ›

 

Gwersylla syml, mewn pebyll ar laswellt wedi'i dorri, ddwy filltir i'r gogledd o Rhuthun, mewn lleoliad naturiol gyda golygfeydd gwych i bob cyfeiriad.

Cyfleusterau: toiledau, cawodydd, cyswllt trydan ac ati.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824707169


Minffordd, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1TS

 

Mae Parc Farm mewn lleoliad heddychlon sy'n mwynhau golygfeydd godidog dros Fryniau Clwyd.

Dim on 50 munud o Lerpwl, a 25 munud o'r M56, mae Parc Farm yn hygyrch iawn. Mae ein perchnogion carafanau sefydlog a chabanau gwyliau yn mwynhau tawelwch, awyrgylch cyfeillgar, golygfeydd godidog, nwy wedi ei bibellu, teledu lloeren, ffonau symudol a rhyngrwyd di-wifr. Yn wir, mae holl foethusion cartref i'w cael yma. Mae'r cyfleusterau eraill yn cynnwys pwll nofio dan do wedi ei gynhesu, clwb trwyddedig, siop ac ardal chwarae i'r plant.


Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824780666


Maes Carafanau Parc Farm, Llanarmon yn Iâl, Rhuthun, Sir Ddinbych, CH7 4QW