Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcîs sy'n storio gwybodaeth amhersonol i'n cynorthwyo i wella ein gwefan.

Gwely a brecwast

Mae Rhuthun yn meddu ar gymysgedd rhyfeddol o leoedd i chi aros a mwynhau ein lletygarwch enwog. P’un ai ydych chi’n chwilio am foethusrwydd hanesyddol mewn castell o’r drydedd ganrif ar ddeg sy’n cynnwys bwytai, bariau a sba, neu westy gwely a brecwast unigryw neu wersylloedd sy’n croesawu teuluoedd a chŵn, fe ddewch chi i’r casgliad fod rhywbeth at ddant pawb yn Rhuthun.

Mae manorhaus Rhuthun yn cynnig wyth ystafell wedi'u dylunio'n unigol sy'n cynnwys cyfleusterau 'en-suite' cyfoes a gwagle wedi'i ddylunio'n ofalus a meddylgar. Darllen mwy ›

 

Mae bwyty manorhaus Rhuthun yn cynnig profiad bwyta campus ond anffurfiol i'r rhai sy'n mwynhau bwydydd cyfoes wedi'u paratoi'n ffres sy'n manteisio'n llawn ar gynhwysion a chynnyrch lleol.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 704830
E-bost:
Gwefan: manorhaus.com/ruthin


10 Stryd y Ffynnon
Rhuthun
LL15 1AH

Mae Tŷ Sarum yn dŷ tref Sioraidd sy'n cynnig gwely a brecwast moethus, sydd wedi derbyn achrediad 4 seren gan Croeso Cymru, yn y dref hanesyddol hon.
Darllen mwy ›

 

Mae Tŷ Sarum yn dŷ tref Sioraidd sy'n cynnig gwely a brecwast moethus, sydd wedi derbyn achrediad 4 seren gan Croeso Cymru, yn y dref hanesyddol hon. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II ac yn darparu 3 ystafell foethus wedi eu haddurno a'u dodrefnu mewn steil unigol, pob un ohonynt yn cynnwys cyfleusterau 'en-suite'.

Gyda pharcio preifat ar gyfer ein gwesteion, rydym wedi ein lleoli o fewn pellter cerdded dau funud o Gastell hanesyddol Rhuthun. Yn wir, mae ein lleoliad yng nghanol y dref yn golygu y gallwch adael eich car wedi'i barcio yn ddiogel a mwynhau tafarndai a bwytai Rhuthun heb orfod poeni am dacsis neu gerdded am oesoedd i gyrraedd adref!

Mae brecwast Cymreig llawn yn rhan o'r pris aros gyda ni, wrth gwrs. Mae ein bwydlen yn cynnig ffrwythau a miwsli cartref, ac rydym yn falch o ddefnyddio cynhwysion lleol, gan gynnwys cig moch a selsig gan y cigydd John Jones, wyau buarth o Fferm Clyttir ac iogwrt o Landyrnog, ynghyd â bara soda cartref Helen, sy'n boblogaidd bob amser! Rydym yr un mor falch ein bod wedi sicrhau ac yn cynnal y sgôr uchaf ar gyfer paratoi bwyd a hylendid a ddyfarnwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae dewisiadau llysieuol ar gael ar bob amser.

Mae ein tair ystafell wedi eu henwi i adlewyrchu'r hanes a diwylliant lleol. Glyndwr yw enw ein hystafell fawreddog, i ddathlu Owain Glyndwr, yr arweinydd Cymreig a oedd yn cael ei gysylltu'n agos â Rhuthun yn yr 1400au. Mae Ystafell Llywelyn wedi ei henwi ar ôl y Tywysog Llywelyn, ein Llyw Olaf, ac Ystafell Dwynwen wedi ei henwi ar ôl Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru (tebyg i San Ffolant).

Estynnir gwahoddiad cynnes i westeion fanteisio ar ein gardd, efallai am baned o de / coffi ar y teras neu i edmygu'r golygfeydd o Fryniau Clwyd.

Ein nod yw gwneud arhosiad ein gwesteion mor bleserus â phosib, ac mae ein hadolygiadau ar Trip Advisor yn dyst i hyn.

Mae gennym ystod o fapiau yn rhoi manylion teithiau cerdded lleol, a medrwn roi cyngor i westeion ar lu o atyniadau lleol i ymweld â nhw. Rydym yn croesawu beicwyr ac mae gennym gyfleusterau golchi a storio diogel ar gyfer beiciau.

Cymrwch olwg ar ein gwefan, www.sarumhouseruthin.com neu ffoniwch John neu Helen ar 01824 703886.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 703886
Gwefan: sarumhouseruthin.com


2 Stryd y Llys
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1DS

Mae Castell Rhuthun yn encil hardd; yn llawn hanes ac yn nythu mewn erwau o barcdiroedd gen Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd yng ngogledd Cymru. Darllen mwy ›

 

Cewch flasu bwydydd godidog, ymlacio yn ein sba neu fwynhau un o'n Gwleddau Canoloesol enwog yng Nghastell Rhuthun, cyn suddo i wely moethus i gysgu fel tywysog neu dywysoges.

Cewch anghofio am y byd yn ein sba, ger tiroedd coetir gwledig ffos amddiffynnol wreiddiol y Castell, gyda thriniaethau a chlwb iechyd a fydd yn eich cynorthwyo i leddfu eich meddwl ac adfer eich ysbryd.

Gem frenhinol sy'n disgwyl i chi ei harchwilio yw Castell Rhuthun.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 702664
E-bost:
Gwefan: ruthincastle.co.uk
@Ruthincastle
/ruthincastlehotelandspa


Stryd y Castell
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 2NU

 

Lleolir Bryn Coch ger pentref Clawddnewydd a choedwig ardderchog Clocaenog. Mae ein teulu ni wedi byw yma am dros ganrif a ni yw'r bedwaredd genhedlaeth i ffermio yma. Mae'r llety teuluol hwn yn cynnig lleoliad heddychlon a chyffyrddus.

Mae Bryn Coch yn cynnwys ystafell i'r teulu ac ystafell i ddau, gyda chyfleusterau ymolchi yn y ddwy ystaell. Hefyd ceir lolfa, gyda thân agored, lle cewch ymlacio ar derfyn dydd.

Cynigiwn groeso Cymreig nodweddiadol a choginio cartref rhagorol, gan ddefnyddio cynhyrchion lleol, ffres. Rydym yn cynnig bwydydd i lysieuwyr ac unrhyw ddiet arbennig arall.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 750603
E-bost:


Clawddnewydd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2NZ

Gorsaf Eyarth Darllen mwy ›

 

Cyn orsaf reilffarodd sydd bellach yn westy gwely a brecwast gwledig sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae'r holl ystafelloedd yn cynnwys ystafell ymolchi a hefyd ceir lolfa deledu, pwll nofio, parcio preifat oddi ar y stryd, golygfeydd godidog. Mae'r lleoliad ddau funud o daith o dref ganoloesol Rhuthun â'i Chastell. Lleoliad canolog ar gyfer Caer, Lerpwl, Llandudno, Conwy, Gerddi Bodnant, Ynys Môn, Caernarfon, Eryri, Llangollen, Y Bala a holl drefi glan y môr arfordir gogledd Cymru, Betws y Coed, Portmeirion ac Iron Bridge.

Derbynnir cerdyn credyd. Dyfarniad 4 deiamwnt coch yr AA ac wedi'i ardystio gan Awdurdod Twristiaeth Prydain.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 703643
E-bost:
Gwefan: eyarthstation.com
/Eyarth-Station-Country-Guest-House-644220712379374/timeline


Gwestyn Gorsaf Eyarth, Llanfair D.C, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2EE.

 

Mae ty gwledig Firgrove yn gartref Sioraidd cain mewn 1.5 erw o erddi aeddfed sy'n edrych dros Ddyffryn Clwyd, filltir o ganol tref farchnad ganoloesol Rhuthun, ac yn lleoliad delfrydol ar gyfer canfod rhyfeddodau gogledd Cymru a dinasoedd Caer a Lerpwl.

Mae ein llety 5 seren Croeso Cymru a 4 seren AA yn cynnig rhywle arbennig i westeion aros. Mae'r tair ystafell wely â'u dodrefn unigryw a'r lolfa yn caniatáu i chi ymlacio a dadflino. Gweinir prydau gyda'r nos ar gais ymlaen llaw. Edrychwch ar ein gwefan am ragor o fanylion.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 702677
E-bost:
Gwefan: firgrovecountryhouse.co.uk


Firgrove Country House, Llanfwrog, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2LL

Tafarn a gwely a brecwast y Leyland Arms Darllen mwy ›

 

Mae gan y Leyland Arms fwyta ac ystafelloedd gwely a brecwast. Cafodd rhannau o'r adeilad eu hailddylunio gan y pensaer enwog Clough Williams Ellis, a greodd Portmeirion.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824750822


Llanelidan, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2PT

 

Mae Pant Glas Canol yn cynnig dau fath o lety, sef gwely a brecwast a charafan hunan arlwyo ar y fferm. Ffermdy ffrâm bren o'r bymthegfed ganrif yw Pant Glas Canol a chafodd y ffermdy ei adfer yn llwyr yn 1990. O'r sil ffenestr isaf mae llong ben i waered wrth y ty. Mae Pant Glas Canol yn lle hardd ar gyfer mynd am dro, ac yn agos at drefi canoloesol Rhuthun a Dinbych. Mae'n gyfleus ar gyfer Caer, Betws y Coed, Parc Cenedlaethol Eryri, Y Bala, Llangollen ac arfordir a chestyll gogledd Cymru. Ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824710639


Pant Glas Canol, Bontuchel, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2BS

Gwely a brecwast Bwthyn Plas Efenechtyd Darllen mwy ›

 

Mae gwesty gwely a brecwast Bwthyn Plas Efenechtyd yn ffermdy Sioraidd hyfryd mewn erw o erddi hardd. Mae ar gyrion pentrefan tawel Efenechtyd a dwy filltir o Rhuthun.

Mae gennym ddwy ystafell wely ddwbl neu un ystafell wely â dau wely, gyda golygfeydd godidog dros Fryniau Clwyd. Mae pob ystafell â chyfleusterau ymolchi ac yn gyffyrddus dros ben.

Rydym ni'n gweini brecwast rhagorol i'ch paratoi ar gyfer y diwrnod. Mae'r bara a'r granola wedi eu gwneud gartref ynghyd â'r jam a'r marmalêd. Mae ein iâr yn darparu wyau ffres i frecwast ac rydym ni'n defnyddio cynnyrch lleol lle bynnag y bo modd.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 704008
E-bost:
Gwefan: plas-efenechtyd-cottage.co.uk
@@efenechtyd1
/Plas.Efenechtyd


Bwthyn Plas Efenechtyd, Efenechtyd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2LP

Llety Fferm Rhydonnen Darllen mwy ›

 

Lleolir y cartref teuluol hanesyddol ac unigryw yma o'r bymthegfed ganrif, sy'n rhestredig, ynghanol Dyffryn Clwyd. Mae Rhydonnen yn adeilad gwefreddiol yn llawn hanes a harddwch, gyda llu o drawstiau derw a lleoedd tân traddodiadol, paneli Brenhines Ann a waliau plethwaith a chlai.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 790258


Rhydonnen, Llandyrnog, Dinbych

Gwely a brecwast Yr Hen Reithordy Darllen mwy ›

 

Mae Catherine, Michael a Katie yn eich gwahodd chi i aros a mwynhau ein cartref teuluo ynghanol cefn gwlad godidog ger trefn farchnad ddeniadol Rhuthun yng ngogledd Cymru.

Nid yw'n bell o Barc Cenedlaethol Eryri, arfordir Gogledd Cymru, Dyffryn Dyfrdwy, Llangollen, Yr Wyddgrug, Caer a Wrecsam. Mae gennym ni ystod ryfeddol o weithgareddau, pethau i'w gwneud a mannau i'w gweld yma ar garreg y drws.

Mae pob ystafell wely yn rhai 'en suite' ac yn darparu awyrgylch ymlacio delfrydol i westeion sy'n aros am gyfnod byr neu gyfnod hirach. Ni chaniateir ysmygu yn yr ystafelloedd gwely, a bydd yr holl gyfleusterau i wneud eich arhosiad yn gyffyrddus a phleserus ymhob un.

Mae lolfa ar gael i'n gwesteion ymlacio ynddi ar ôl diwrnod o weithgareddau a mwynhau cacennau a bisgedi cartref.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 750740
E-bost:
Gwefan: oldrectoryclocaenog.co.uk
@@oldrectorycloc
/OldRectoryClocaenog


Yr Hen Reithordy, Clocaenog, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2AT

Gwely a brecwast Tyddyn Chambers Darllen mwy ›

 

Dewch i ryfeddu at olygfeydd godidog Bryniau Clwyd!

Mae Huw ac Ella yn cynnig croeso cynnes i'w llety gwely a brecwast di-fwg a foderneiddwyd er cyffyrddusrwydd a boddhad eu gwesteion.

Mae llety gwely a brecwast Tyddyn Chambers yn lle delfrydol i aros, gyda golygfeydd eang o Fryniau Clwyd ac mewn lleoliad canolog ar gyfer crwydro gogledd Cymru, mynd i ddinas hanesyddol Caer, Erddig a Gerddi Bodnant dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, trefi Betws y Coes a Llandudno a chyrchfannau glan y môr eraill.

Mae'r llety yn cynnwys un ystafell wely ddwbl, un ystafell wely i deulu ac un ystafell wely dau wely.

Mae'r addurno a'r dodrefnu i'r safon uchaf. Mae gan bob un gyfleusterau ymolchi a llawer o bethau bach ychwanegol. Teledu, cyfleusterau gwneud te/coffi, radio/cloc larwm, sychwr gwallt a gwres canolog yn gwneud eich arhosiad yn un pleserus dros ben.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824750683


Tyddyn Chambers, Pwllglas, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2LS

Gwely a brecwast Blaen Cwm Darllen mwy ›

 

Ystafell dau wely ar gael yn Llanfair Dyffryn Clwyd, dwy filltir o dref farchnad hanesyddol Rhuthun - y pris yw £56 am yr ystafell i ddau, neu £35 i un.
Cawod a thoiled preifat, a mynedfa breifat.
Cewch ddefnyddio'r ystafell ardd hefyd.
Teledu LCD a pheiriant DVD.
Te a choffi yn yr ystafell.
Sychwr gwallt.
Cysylltiad di-wifr am ddim ar y safle.
Gweinir brecwast cyfandirol yn yr ystafell ardd.
Tafarn wledig yn cynnig prydau bwyd 200 llath o'r eiddo.
Gradd hyledid uchaf gan Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych
Gellir trefnu dod i nôl cerddwyr o lwybr Clawdd Offa.

Manylion Cyswllt:

Rhif ffôn: 01824 705331
E-bost:
Gwefan: bedandbreakfastruthin.co.uk


Blaen Cwm
34 Parc y Llan
Llanfair Dyffryn Clwyd
Rhuthun
LL15 2YL